Llwyddiant C.Ff.I Llanllwni yn Rali Sir Gâr

gan Cffillanllwni
Betsan a Sioned yn y Rali
Betsan a Sioned yn y Rali

Mae hi wedi bod yn fis prysur arall i ni yn Llanllwni. Ac hefyd yn fis llwyddiannus!

Ar Ebrill y cyntaf roedd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymru yn Llanelwedd. Roedd yn braf gweld dau aelod o’r clwb yn mynd yno i gynyrchioli’r Sir sef Owain Davies a Sioned Howells.

Llongyfarchiadau mawr i Owain Davies oedd yn rhan o’r tîm hŷn Cymraeg a ddaeth yn fuddugol.   Hefyd da iawn Sioned Howells oedd yn rhan o’r tîm Iau Saesneg,  a daeth hi yn drydydd fel prif siaradwr. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonynt.

Cynhaliwyd noson Bingo y clwb ar y 7fed o Ebrill lle fuodd rhai yn fwy lwcus nac eraill! Diolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi ac i’r holl aelodau am gyfrannu tuag at y gwobrau neu â chacennau. Diolch hefyd i John ac Anne am ganiatau i ni ddefnyddio’r Talardd i gynnal y noson.

Cynhaliwyd cystadleuaeth ffensio y sir ar 12fed o Ebrill, ar gaeau Milestone, New Inn, drwy garedigrwydd teulu Blaenblodau.  Da iawn i dim hŷn y clwb am ddod yn ail ac i dîm Iau y clwb am ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth honno.

Sioned, Siôn ac Anwen ar lwyfan y Rali
Sioned, Siôn ac Anwen ar lwyfan y Rali

Ar Ebrill 14 cynhaliwyd noson Dawns Dewis Llysgenhadon  y Sir lle fuodd aelodau hŷn y clwb allan yn mwynhau.  Dathlu mawr a fu ar ddiwedd y noson,  pan gyhoeddwyd mai Siôn Evans o glwb Llanllwni yw llysgenad C.Ff.I Sir Gâr am y flwyddyn 2017. Llongyfarchiadau mawr i ti Siôn, rydyn ni i gyd yn falch iawn o dy lwyddiant, ac rydym yn dymuno pob lwc i ti yn y swydd!

Ar nos Sul 16 o Ebrill, cynhaliwyd Gymanfa Fodern yng Nghapel Nonni er mwyn codi arian tuag at y Sioe Frenhinol 2017, cafon ni fel clwb wahoddiad i fynd yno i ganu fel rhan o’r noson.  Braf oedd cael bod yn rhan o’r noson lwyddianus.

Ar 23 o Ebrill fe wnaeth rhai o aelodau ifanc y clwb mynd ar drip ‘paintballing’ gyda Fforwm Ieunctid y Sir. Er bod llawer o gleisiau, braf oedd cael cymeithasu gydag aelodau ifanc eraill o fewn y sir.

Arwel, Anwen ac Ifor
Arwel, Anwen ac Ifor

Ar y 13eg o Fai bu’r aelodau yn cystadlu’n frwd yn y Rali blynyddol.  Daeth tri chwpan yn ôl i Lanllwni ar diwedd y dydd.  Daeth Anwen ac Ifor i’r brig yn y beirniadu cobiau Adran D; Betsan a Sioned Bowen yn fuddugol yn y coginio adran hŷn, ac Arwel ac Anwen yn fuddugol yn y gystadleuaeth gyrru tractor. Daeth Arwel a Carwyn yn ail yn y gwaith coed hŷn; Anwen ac Owain yn ail yn y beirniadu gwartheg limousin; a Dan ac Ifor yn ail yn y gystadleuaeth Sylwebaeth Fyw. Llongyfarchiadau mawr i bawb arall a wnaeth gynrhychioli’r clwb ar y diwrnod, a diolch o waelod calon i’r holl hyfforddwyr a wnaeth  gynorthwyo’r aelodau mewn unrhyw fodd.

Pleser mawr i’r clwb hefyd oedd gweld un o’n aelodau hynaf, Siôn Evans, yn cael ei anrhydeddu yn llysgenad y Sir am y flwyddyn sydd i ddod.    Yn ogystal a Siôn, roedd dwy aelod arall o glwb Llanllwni ar y llwyfan yn y seremoni  Llysgenhadon;  sef Anwen Jones, a gaeth ei anrhydeddu yn Stocmon Hŷn y flwyddyn, a Sioned Howells, sydd wedi ei dewis fel Aelod Iau Sir Gâr am y flwyddyn.  Dymunwn fel clwb bob lwc i chi eich tri yn eich swyddi, a mwynhewch bob eiliad!