Daethpwyd â llwch y diweddar Ray Evans yn ôl i Lanybydder heddiw. Bu farw’r awdures o Bencarreg mewn cartref yng Nghaerdydd ar yr 20fed o Fawrth yn 93 oed.
Yn wreiddiol o Lwyncrwn, Pencarreg, aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth a bu’n athrawes Gymraeg mewn ysgolion yng Nghaerdydd.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a’r fro yn 1986 am ei nofel ‘Y Llyffant’ a seliwyd ar ei phlentyndod ei hun ym Mhencarreg. Yn ogystal â hynny, cyhoeddodd ddau lyfr i blant sef ‘Cynffon Anti Meg’ a ‘Daw Bola’n Gefen’.
Ym 1989, addaswyd ei nofel yn gyfres ar gyfer S4C gan Gwmni Penadur a gwnaed y ffilmio yn ardaloedd Llanddewi Brefi, Llanfair Clydogau a Llwynygroes. Darlledwyd y gyfres ar S4C ym mis Ebrill 1990.
Cafodd llawer o blant a phobl ifanc lleol y cyfle i actio yn y gyfres dan gyfarwyddyd David Lyn. Ymhlith yr actorion lleol oedd pobl fel Aled Jones, Meysydd, Drefach: Heini Jones, Glanhelen, Llanbed a Rebecca Kelly o Lanybydder yn y brif ran fel yr Esther ifanc.
Rwy’n cofio cael fy newis i actio rhan Tom Hughes fy hun. Myfyriwr yn yr ysgol oedd Tom Hughes a rannai’r un angerdd ag Esther mewn barddoniaeth. Ond roedd pethau’n anodd ar Tom Hughes, a chafodd ei ddal yn dwyn iâr.
Yn ei beirniadaeth yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith, dywedodd Rhiannon Davies Jones “Ysgrifennwyd yr hunangofiant plentyndod hwn yn nhafodiaith bersain gogledd yr hen sir Gaerfyrddin gallwn dybio. Mae yma ddawn storïol bur arbenigol sy’n cyfleu adwaith yr awdur i fyd plentyndod i drwch y blewyn.
“Yma ceir y cyffyrddiadau prin hynny sy’n rhoi blas yr anghyffredin ar y cyffredin bethau. Digwydd hyn am fod yma artist llenyddol yn meddu ar awen bardd yn y disgrifiadau o fywyd ysgol, byd marwolaeth a phortread o Ta’cu. Cyfanwaith go arbennig yn wir.”
Os nad ydych wedi darllen ‘Y Llyffant’, chwiliwch am gopi, neu beth am ail ymweld â hi, dim ond er mwyn gwerthfawrogi darlun hyfryd o fywyd pentref Pencarreg, yr ysgol a’r llyn yn yr oes a fu?
Cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Ray Evans, gan ddiolch am awdures y gallwn fel ardal ymfalchïo yn ei llwyddiant.