Sioe Cwmsychpant 2017

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant 2017 

Llywydd y dydd gyda’r buddugwyr
Y ddau dim a oedd yn y ffeinal yn’ Taclo’r Tasgiau.’
Gwirfoddolwr o Beiciau Gwaed Cymru yn siarad

Cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a Sioe Flynyddol Cwmsychpant a’r Cylch ar gaeau Waun, Rhydowen ar ddydd Sadwrn, Awst y 12fed trwy garedigrwydd Mrs. Ella a Mr. Vernon Davies. 


Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn eto eleni, ac roedd yr elw yn mynd tuag at Feiciau Gwaed Cymru. Rhannwyd neges gan gynrychiolydd o’r elusen yn sôn am waith arbennig y gwirfoddolwyr ar draws y wlad.


Dechreuodd diwrnod y sioe yn gynnar gyda’r treialon a bu’r cŵn defaid yn rhedeg o’r bore bach tan yr hwyr gyda chystadleuwyr o nifer o wledydd tu hwnt i Gymru. Unwaith eto eleni roedd y babell yn orlawn o gynnyrch amrywiol ac roedd y cyfan o safon uchel. Daeth cystadleuwyr o bell ac agos i gystadlu. Cynhaliwyd mabolgampau i’r plant hefyd yn y bore a gwnaeth nifer ennill rhubanau. Cafwyd arddangosfa o hen beiriannau hefyd a oedd yn werth i’w gweld.


Ein llywydd eleni oedd Mr. Gwynfor Lewis, Bronwydd, Heol-y-Bont, Llambed neu Gwynfor W.D. Lewis fel yr adnabyddir ef yn lleol. Mae’r teulu wedi bod yn gefnogol i’r sioe dros y blynyddoedd a braf iawn oedd cael ei gwmni ef a’i deulu yn ystod y dydd. Diolch yn fawr iawn iddo am ei rodd hael i’r coffrau.


Ar ddiwedd y prynhawn cynhaliwyd ein gwerthiant blynyddol o gynnyrch y babell a gyfrannwyd gan y cystadleuwyr, gyda dau o blant y Cwm wrth y llyw sef Sion Jenkins a Dewi Jones.   
Unwaith yn rhagor bu’n arwerthiant llwyddiannus a chodwyd arian sylweddol i’r elusen o ganlyniad i haelioni’r cyfrannwyr.


I gloi diwrnod llwyddiannus arall, cafwyd adloniant yng nghwmni’r grŵp lleol a phoblogaidd sef Newshan. Unwaith eto eleni cynhaliwyd sesiwn ganu i’r plant yn gyntaf ac yna am y drydedd flwyddyn, cystadleuaeth “Taclo’r Tasgau” i dimau o bedwar aelod.  Cafwyd llawer o hwyl gyda’r cefnogwyr yn gweiddi a chefnogi eu timoedd. Enillwyr y tasgau eleni oedd “Tim C.Ff.I. Llanwenog” sef Steffan Jenkins, Carwyn Davies, Meinir Davies a Sioned Davies. Llongyfarchiadau mawr iddynt.  Gorffennwyd y noson yng nghmwni Newshan a chafwyd canu da a dawnsio hyd oriau mân y bore.


Dyma restr o enillwyr y dydd:            

Gwinoedd  Megan Richards, Aberaeron

Cyffeithiau  Sirian Davies, Cwrtnewydd

Coginio  Wendy Davies, Penffordd

Gwaith Llaw  Ceinwen Evans, Talgarreg

Crefft  Carwyn Davies, Penffordd

Ffyn  Keith Allan, Carwe, Llanelli

Ffotograffiaeth  Eleri Jenkins, Llanbedr Pont Steffan

Arlunio Plant

Bl. 2 ac o dan  Aaron Jac Lewis, Ysgol Cwrtnewydd

Bl. 3 a 4  Megan Davies, Ysgol Cwrtnewydd

Bl. 5 a 6  Katy Moyes, Ysgol Cwrtnewydd

Adran Plant

Dan 8  Glesni Rees, Penffordd

9 ac o dan 12  Elen Morgan, Drefach

12 ac o dan 17  Carys Evans, Talgarreg

Adran Blodau  Andrew Davies, Llandysul

Celfyddyd Blodau  Erika Davies, Llanwnnen

Cynnyrch Gardd  Elliw Grug Davies, Drefach

Adran Geffylau

Pencampwr yr Adran Geffylau  Alis Evans, Talgarreg

Pencamwr yr Adran Geffylau i Blant  Cadi Evans, Talgarreg

Adran Ddefaid

Pencampwr Croesfrid Gareth Evans, Blaencwrt

Taleb gwerth £25 Elfyn Morgans, Gorsgoch

Hen Beiriannau Iwan Evans, Bwlch-y-fadfa

Dymuna pwyllgor Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant ddiolch yn fawr iawn i’r beirniaid, y stiwardiaid, y noddwyr a phawb arall am bob cyfraniad a chymorth a dderbyniwyd er mwyn sicrhau sioe lwyddianus.