Yn y gyfrol ‘Dechrau Canu, Dechrau Wafflo’, a gyhoeddir yr wythnos hon, ceir hanes Kees Huysmans o Lanbed, y canwr a’r dyn busnes llwyddiannus a symudodd o’r Iseldiroedd i gefn gwlad Cymru yr 1980au, gan fabwysiadu iaith a diwylliant Cymru, ynghyd â sefydlu cwmni Tregroes Waffles.
Mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth erbyn hyn, a bellach wedi llwyddo i ddwyn enw pentre Tregroes i enwogrwydd ar draws y byd.
Dechreuodd Kees ei yrfa gerddorol yn blentyn yng nghôr yr eglwys Gatholig yn yr Iseldiroedd, ac ar ôl symud i Gymru fe’i cynghorwyd i ymuno â chôr lleol, yn bennaf er mwyn dysgu Cymraeg. Cafodd flas ar gystadlu mewn Eisteddfod ac yn 2016, llwyddodd i gipio’r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni.
Bu’r profiad o ganu yng Nghôr Meibion Cwmann a’r Cylch yn ogystal â’r cyfle i sgwrsio gyda’r cwsmeriaid tu ôl i’w stondin yn y farchnad, yn gyfrwng iddo ddatblygu ei ddefnydd o’r iaith. Bellach mae’n medru’r Gymraeg yn rhugl ac yn ei defnyddio’n naturiol yn ei waith ac yn y gymdeithas.
Wedi gwneud ymdrech arbennig i goleddu’r holl arferion a’r traddodiadau a oedd yn perthyn i’r gymdeithas leol, fe werthfawrogodd y cymorth a dderbyniodd gan drigolion yr ardal pan wynebodd gyfnod tywyll yn ei fywyd fel y dengys yn ei lyfr.
‘Mewn ffordd, mae’r llyfr hwn wedi rhoi cyfle i mi roi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas a phentre Tregroes lle’r wyf wedi byw am dros ddeng mlynedd ar hugain’ eglurodd Kees.
O ganlyniad, bydd unrhyw elw o’r llyfr yn mynd yn syth tuag at y gost o adnewyddu’r hen ysgol i fod yn ganolfan i’r pentre a’r ardal gyfagos.
Meddai’r ymgyrchydd Emyr Llywelyn, ‘Dyma lyfr diddorol a darllenadwy yn adrodd hanes dyn arbennig iawn, sef Kees Huysmans. Un o rinweddau mawr y gyfrol yw gonestrwydd a didwylledd yr awdur sy’n siŵr o gyffwrdd â phawb a fydd yn ei darllen.’
‘Mae yma ddarlun unigryw o rinweddau cymdeithas wledig Gymraeg ei hiaith drwy lygaid mewnfudwr.
Go brin y llwyddodd neb i adrodd stori ei fywyd mewn ffordd mor gofiadwy â’r canwr, y dyn busnes a’r Cardi mabwysiedig hwn.’