Nos Wener 17eg Tachwedd cynhaliwyd cyfarfod agored gan fudiad Dyfodol yr Iaith yn Festri Brondeifi, Llanbed a daeth tyrfa gref o bobl leol chwilfrydig o gefnogwyr y Gymraeg i weld beth oedd tu ôl i deitl y cyfarfod sef ‘Gobaith newydd i’r Gymraeg’.
Y siaradwyr ar ran y mudiad oedd Heini Gruffudd (Cadeirydd) a Cynog Dafis gyda’r aelod seneddol Ben Lake yn cadeirio’r drafodaeth.
Dechreuodd Heini Gruffudd drwy son am waith Dyfodol i’r Iaith a’r hyn a gyflawnwyd ganddynt yn y pum mlynedd ddiwethaf.
Dyma fudiad sy’n gweithredu er lles y Gymraeg gan ddylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth.
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith. Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.
Cafwyd cyflwyniad ysbrydoledig wedyn gan Cynog Dafis. Pwysleisiodd bod angen i ni newid agwedd ac yn hytrach na bod yn drist a chrac am y sefyllfa. Dylem edrych ar yr ochr gadarnhaol ac annog o hyd.
Clôdd Cynog drwy ddweud ei bod yn amser i ni fod yn fwy gobeithiol – mae’n destun llawenydd i gael iaith i ymfalchïo ynddi a’i defnyddio. “Gweithred gadarnhaol a chyffrous yw adfer y Gymraeg” meddai.
Braint oedd cael aelod seneddol Ceredigion yn cadeirio’r noson gan ddenu trafodaeth gan y gynulleidfa. Tra’r oedd y siaradwyr gwadd ar ran Dyfodol i’r Iaith yn pwysleisio rôl y mudiad yn lobio awdurdodau fel y llywodraeth, son am eu pryderon yn ymwneud a’r Gymraeg o ddydd i ddydd a wnaeth yr unigolion a gymerodd ran o’r llawr. Codwyd materion fel mewnfudo ac allfudo, siarad â dysgwyr a siarad mewn siopau.
Mynegodd Cynog Dafis, bod deddfwriaeth yn hollol hanfodol er mwyn gwrthwneud sifft ieithyddol. Cyfeiriodd at ba mor ddylanwadol tuag at agweddau ieithyddol oedd penderfyniadau llywodraethol dros y blynyddoedd adeg y deddfau uno ac wrth gyfieithu’r Beibl. Pwysleisiodd felly pa mor dyngedfennol y gallai penderfyniadau Llywodraeth Cymru fod ar yr iaith Gymraeg heb arweiniad a phwysau gan fudiad fel Dyfodol yr Iaith.
Ar ddiwedd y noson, roedd y gynulleidfa a fynychodd wedi eu bodloni. Mae’n destun digalon i lawer yn yr ardal hon wrth brofi dirywiad yn y defnydd o’r Gymraeg, ond roedd yn destun o lawennydd i weld bod llawer iawn o syniadau Dyfodol yr Iaith wedi eu mabwysiadu gan y Llywodraeth ac awdurdodau eraill er mwyn helpu’r sefyllfa yn y tymor hir.
Anogwyd y gynulleidfa i gefnogi gwaith Dyfodol yr Iaith er mwyn parhau a’r gwaith o lobio awdurdodau a hybu twf a ffyniant yr iaith. Gellir cyfrannu’n ariannol tuag at y gwaith pwysig hwn drwy fynd i wefan Dyfodol i’r Iaith.