Te Prynhawn Eirios Thomas

gan Alun Jones

Diolch a chlod i Ffermwyr Ifanc Cwmann am drefnu Te Prynhawn i ddangos eu gwerthfawrogiad o wasanaeth Mrs Eirios Thomas (neu Eirios Coedeiddig i ni) fel trefnydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin am bron ddeugain mlynedd. Bu cyfraniad Eirios yn un clodfyw i bobl ifanc, i ddechrau fel athrawes yn Sir Clwyd, ac yna fel trefnydd Ffermwyr Ifanc Sir Gâr.

Mae sawl cenhedlaeth wedi elwa o gyfraniad Eirios yn arwain, ac yn rhoi cyfle a phwyslais ar gymeryd rhan, fel bod yr aelod yn unigol yn datblygu ac aeddfedu i fod yn ddinasyddion da.

Daeth tyrfa gref o gyn aelodau, teuluoedd a chefnogwyr oes Cwmann ynghyd â Llywydd y Sir, Gweinidogion a ffrindiau i gefnogi yr achlysur, gyda Rhian Thomas Cadeirydd presennol yn llywio y gweithgareddau. Do fe gafwyd De Prynhawn Cymreig o’r safon uchaf wedi ei baratoi gan Delyth Jones Ffos-y-ffin. Roedd ymddangosiad y dyrfa yn dangos gwerthfawrogiad o ymroddiad Eirios dros y blynyddoedd. Cafwyd gair byr gan Arwyn Davies Capel- tydus Llywydd  y Sir. Cyflwynwyd anrheg a blodau gan Rhian ar ran y clwb i Eirios a chafwyd araith arbennig o ddiolchgarwch ganddi. Dymuniad Eirios bod unrhyw rodd ariannol ar y dydd yn mynd i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’n eitha pwrpasol i mi yn yr erthygl hon gydnabod fy niolch i’r aelodau cynnar am y weledigaeth i ail ffurfio Clwb Ffermwyr Ifanc yn Cwmann. Yn ôl hanes eitha heriol oedd rhai pobl, a dweud parith e ddim blwyddyn, wel mae’r blynyddoedd wedi dweud y cyfan ac rydym mewn i ganrif arall erbyn hyn. Clod i bawb sydd wedi cefnogi ac wedi bod yn aelodau.

Llongyfarchiadau mawr eto am ddiwrnod da o waith i bobl ifanc a braint oedd cael cydweithio gyda thi yn y dyddiau cynnar. Mwynha dy ymddeoliad gyda Jim a’r teulu.