Twrnament Pêl-droed Bow Street

gan Fiona Davies

Ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 8fed, aeth criw o bêl droedwyr Llambed lan i Aberystwyth i gymryd rhan yn nhwrnament pêl droed Bow Street.

Dechreuodd y twrnament am 10 o’r gloch a braf oedd gweld yr haul yn disgleirio! Ar ôl chwarae llwyth o gemau yn eu grwpiau braf yw adrodd bod y tîm o dan 6, 8 a 10 o Lambed wedi cyrraedd y ffeinal! Camp enfawr i glwb pêl droed Llambed ac i’r hyfforddwyr sydd yn gwirfoddoli eu hamser i sicrhau bod y chwaraewyr yn cael y cyfleoedd gorau.

Y bechgyn o dan 6 oedd yn chwarae yn gyntaf ac ennill oedd hanes y tîm wrth iddynt ennill 3-2 yn erbyn academi Caerfyrddin mewn gêm agos a chyffrous! Llongyfarchiadau iddyn nhw ac i Paul Butch, eu hyfforddwr.

Colli oedd hanes y tîm o dan 8 wrth iddynt golli o 1 gôl yn amser ychwanegol ar ôl rheoli’r gêm trwy’r ffeinal! Llongyfarchiadau iddynt ac i Chris Walters sydd yn hyfforddi’r tîm.

Ennill oedd hanes y tîm o dan 10 hefyd wrth iddyn nhw lwyddo i sgorio yn amser ychwanegol. Llongyfarchiadau i Dylan Davies (hyfforddwr) a’r bechgyn.

I orffen y twrnament llwyddiannus cawsom y newyddion bod Hari Jones wedi cael y tlws am chwaraewr y twrnament o dan 8! Llongyfarchiadau anferthol i ti Hari Jones.