Cafodd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn Nrefach, Ceredigion ei agor yn swyddogol ar ddydd Gwener, 10 Tachwedd gan Elin Jones AC. Agorodd yr ysgol ei ddrysau am y tro cyntaf ar 5 Medi 2017, gan ddarparu cyfleusterau ar gyfer hyd at 120 o ddisgyblion ysgol gynradd a 25 o ddisgyblion o oed meithrin.
Dywedodd Elin Jones AC, “Mae’n fraint fawr i agor Ysgol Dyffryn Cledlyn yn swyddogol. Bod yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanwnnen fy hun, rwy’n falch mae Llanwnnen yn rhan o’r ysgol newydd yma. Darparodd pob un o’r ysgolion yng Nghwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog safon addysg ragorol. Mae’r etifeddiaeth honno’n byw yn Ysgol Dyffryn Cledlyn, y mae ei ddisgyblion bellach yn cael y cyfleusterau gorau yn ogystal â’r addysgu a’r arweinyddiaeth ragorol yr oeddent eisoes wedi eu mwynhau. Mae’r ysgol hon hefyd yn ased ardderchog i’r gymuned ehangach ac mae eisoes yn datblygu i fod yn ganolbwynt gweithgarwch cymunedol.”
Amlinellodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, gefndir y datblygiad. Esboniodd, “Crëwyd Ysgol Dyffryn Cledlyn trwy uno tair ysgol gynradd ynghŷd; Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog. Bydd yr ysgol newydd hon yn darparu addysg yr 21ain ganrif i ddisgyblion a hefyd yn galluogi’r gymuned i ddefnyddio’r cyfleuster fel canolfan ganolog ar gyfer digwyddiadau cymunedol a diwylliannol yng nghymunedau Drefach, Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog.” Rhoddodd hefyd ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect, gan ddweud, “Rwy’n arbennig o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth trwy Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. Diolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect datblygu, am eu gwaith caled a’u cyfraniad.”
Mae Ysgol Dyffryn Cledlyn yn brosiect arian cyfatebol Llywodraeth Cymru. Cyfrannodd Cyngor Sir Ceredigion 50% o’r arian a chyfrannodd Llywodraeth Cymru trwy’r fenter Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif 50%. Dyluniodd tîm o benseiri’r Cyngor yr ysgol a rheolwyd y prosiect ar y cyd ag ymgynghorwyr mewnol. Dechreuodd Andrew Scott Ltd adeiladu ym mis Ionawr 2016.
Dywedodd Kirsty Williams CBE AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a fynychodd yr agoriad swyddogol, “Mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn cynrychioli’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au. Bydd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn darparu amgylchedd dysgu ardderchog i ddisgyblion ac athrawon ac mae’n dangos ein hymrwymiad i adeiladu ysgolion cynradd newydd yng Ngheredigion, yn dilyn adeiladu Ysgol Bro Sion Cwilt ac Ysgol T Llew Jones. Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi y byddwn yn clustnodi £2.3 biliwn pellach i barhau i foderneiddio ysgolion a cholegau yn ail rownd y rhaglen, i ddechrau yn 2019.”
Mae’r ysgol newydd yn cynnwys ardal pwrpasol ar gyfer dosbarth blynyddoedd cynnar; ardal gymunedol aml-bwrpas; dosbarthiadau ar gyfer plant meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2; maes adnodd arbenigol, a neuadd fawr gyda chyfleusterau arlwyo ar y safle.
Y tu allan mae maes chwaraeon, iard sy’n addas ar gyfer bob tywydd, mannau chwarae ac ardaloedd allanol ar gyfer plant y cyfnod sylfaen ac ardaloedd amgylcheddol.