Atgofion Dyn Llaeth Delmi Harries

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Delmi a'i wraig Mareth
Delmi a’i wraig Mareth

Gydag atgyfodiad poblogwydd llaeth mewn poteli y dyddiau hyn, un o ddynion llaeth ardal Llanbed yw ‘Cymeriad Bro’ y mis hwn ym Mhapur Bro Clonc.

Disgrifia Gwyneth Davies ef fel “Gŵr y filltir sgwâr” gyda chysylltiadau â phentrefi Alltyblaca, Pencarreg a Llanybydder ac mae’n byw yn Llanbed nawr ers blynyddoedd mawr.

Dechreuodd feithrin pen busnes wrth ddal cwningod, a mynd â nhw i’w gwerthu yn Llanbed ar fws ysgol.  Ond treulio ei oes yn ymwneud â chynnyrch llaeth a wnaeth Delmi.

Bu’n gweithio yn Llaethdy’r Dolau Llanybydder cyn prynu fan a gwerthu llaeth o gartref i gartref yn yr ardal.  Gwasanaeth a aeth yn angof tan yn ddiweddar iawn.

Ond dywed Gwyneth fod Delmi yn fwy na dyn llaeth yn unig.  “Roedd e hefyd yn ffrind tyner a oedd yn barod iawn ei gymwynas. Byddai’r wên siriol bob amser yn codi calon a’r ‘helo’ groesawgar ar fore rhewllyd yn werth y byd.”

Mynnwch gopi o rifyn Chwefror Papur Bro Clonc i ddarllen mwy am y dyn difyr hwn a fu’n gweithio i’r frigâd dân, yn ddyn lolipop Ysgol Ffynnonbedr a chynorthwyo ei fab gyda’i fusnes yn ogystal, ac er mwyn darganfod sut y trawsnewidwyd bywydau Delmi a’i wraig Mareth fel Cristnogion wedi ymweliad rhywun arbennig â Llanbed.