Cynhaliwyd Carnifal Llanbed ar y 4ydd o Awst. Diwrnod hyfryd o haf, ar ôl y glaw ar y diwrnod blaenorol. Roedd y criw ar y cae am 8 y bore i gael popeth yn ei le. Hyfryd oedd gweld y stondinau yn cyrraedd yn barod i rhoi awyrgylch da i’r Carnifal.
Roedd yr orymdaith yn dechre o Ysgol Bro Pedr, Y Frigad Dân yn dangos y ffordd trwy’r dre, ac Ivor a Donna yn y car gyda’r corn siarad a Paw Patrol yn y trailer bach. Wedyn roedd fflôt hyfryd Brenhines y Carnifal, a’r Frenhines eleni oedd Sara Jones, a’i gosgordd oedd Gwenno Herrick, Jade Waller, Vinnie Shore a Rhys Jones, roeddynt i gyd yn edrych yn hyfryd. Roedd 5 fflôt yn eu dilyn, a grêt oedd gweld y dorf yn y dre yn gwylio.
I fyny am y Clwb Rygbi ble oedd y Maer, Ann Bowen Morgan a’i gŵr yn disgwyl ni i goroni’r Frenhines. Wedi araith fach i groesawu pawb aeth i fyny i’r trailer i wneud ei swydd.
Wedyn roedd gwaith caled yn disgwyl ein beirniaid sef Mrs Delor James a’i gŵr Hywel, ac roedd yn wir yn waith caled; roedd lot o waith wedi mynd i wneud y gwisgoedd.
Fflôt wedi’i addurno orau.
- Hafan Deg
- Dyfodol
- Clwb Netball
Merch o dan 2.
1. Nina Jones
2. Gwen Hopkins
3.cydradd. Briallen Jones a Ivy Grace.
Bachgen o dan 2.
1. Jaiden Gilbert
2. Tryfan Phillips
3. cydradd. Mickey Ling a Benji Davies
Merched 2-4
1. Alana Jones
2. Ffion Davies
3. Rebecca Boyle
Bechgyn 2-4
1. Dion Davies
2. Macsen Allan
3. Ellis Hopkins
Merched 5-7
1. Lily Evans
2. Nia Davies
3. Tia Gilbert
Bechgyn 5-7
1. Osian Morgans
2. cydradd Sion Evans a Gruffudd Ward
Merched 8-11
1. Elin Evans
2. Catrin Davies
3. Elan Jones
Bechgyn 8-11
1. Ronnie Evans
2. Callum Wright
Par 11 a thano
1. Tia Gilbert a Efa Allan
2. Ellis a Gwen Hopkins
3. Nina Jones a Alana Jones
Merched 12-15
1. cydradd. Lisa Evans a Marged Hopkins
Bechgyn 12-15
2. cydradd. Levi Davies a Steffan Evans
Par 12 -18
1. Lisa Evans a Marged Hopkins
Agored dros 18
1. Martin Owens
2. Dilys Megicks
3. Sian Jenkins
Par dros 18
1. Dilys Megicks a Sian Jenkins
2. Margaret Evans a Elinor Davies.
3. Hag Harries a Eiry Morgan
Prif Enillydd
1. Jaiden Gilbert
Ymlaen wedyn i’r mabolgampau a phawb yn mwynhau o dan ofal staff Ysgol Bro Pedr sydd yn rhoi o’u hamser i drefnu’r holl rasus.
Taflu welinton oedd nesa dan ofal y Teulu Phillips a hwyl a gafwyd wrth weld y welintons yn hedfan i bob cyfeiriad!
Ar ran y pwyllgor hoffwn ddiolch i bawb a fu’n helpu trwy wythnos y Carnifal yn yr helfa drysor cerdded a’r helfa drysor cerbyd, a hefyd y Cwis. Hefyd am yr help gawson gan y Frigad Dân ar y ffordd lan i’r cae.
Diolch i Gareth Davies ITech am wneud y pamffledi, Cascade am drefnu blodau i’r frenhines a’i gosgordd, a diolch i’r barnwyr a’r maer.
Ond yn bennaf diolch i bawb a fu’n cystadlu a phawb fuodd yn joio lan y cae.