Carolau Traddodiadol a Newydd

Haulwen Lewis
gan Haulwen Lewis

Cyhaliwyd Gwasanaeth Llith a Charol yn y Tabernacl Pencader prynhawn Sul 23ain Rhagfyr 2018.

Yn bresennol oedd aelodau pump eglwys yr ofalaeth, Bethel Drefach, Brynteg, Capel Nonni Llanllwni, Gwyddgrug ar Tabernacl.

Llywyddwyd yr oedfa gan ysgrifennydd Tabernacl, Haulwen Lewis, ac offrymwyd y weddi agoriadaol gan Sián Thomas.  

Bu aelodau’r pum eglwys yn darllen rhannau o’r ysgrythur, ac yn cyflwyno eitemau.  Mwynhawyd canu carolau traddodiadol a newydd.

Yr organyddionoedd Marc Jones, Fioled Jones a Nancy Jones.  

Ar ddiwedd yr oedfa aeth pawb i’r festri i gael cwpanaid o de a mins peis a baratowyd gan wragedd Tabernacl.