Blwyddyn newydd dda i holl aelodau a Ffrindiau’r clwb. Ar ran CFFI Llanllwni hoffwn ddiolch i bobl y pentref a’r ardaloedd cyfagos am eu haelioni ar hyd y flwyddyn.
Cynhaliwyd Swper Cynhaeaf blynyddol y clwb yn Neuadd yr Eglwys Maesycrugiau, lle roedd aelodau’r clwb yn perfformio pigion o’r eisteddfod fel rhan o adloniant y noson. Codwyd £617.50.
Llongyfarchiadau mawr i Ifor Jones a enillodd y gystadleuaeth barnu carcas dan 21. Hoffai’r clwb hefyd longyfarch Sioned Howells am ddod yn 3ydd yng nghystadleuaeth y goron yn Eisteddfod CffI Cymru yn Llandudno, ac i Owain Davies am ddod yn ail am gyfansoddi sgets.
Gwahoddwyd CffI Capel Iwan i dafarn y Talardd am noswaith o gymdeithasu gyda’r clwb, roedd pawb i’w weld yn mwynhau chwarae’r gemau. Diolch i aelodau Cffi Capel Iwan am ddod a diolch i dafarn y Talardd am ein croesawu ni unwaith eto!
Aeth criw o ferched lawr i Ysgol Gynradd Nantgaredig ar 25ain o Dachwedd i’r gystadleuaeth Siarad Gyhoeddus Saesneg. Ar ôl bore prysur o gystadlu daeth tîm yr adran ganol yn drydydd, gyda Sioned Howells yn mynd ymlaen i gynrychioli Sir Gaerfyrddin fel Cadeirydd a Sioned Bowen fel eilydd. Llongyfarchiadau i’r tîm iau a thîm yr adran ganol!
Fe aeth rhai aelodau i fyny i Faes y Sioe i’r Ffair Aeaf. Llongyfarchiadau i Ifor Jones am ddod yn drydydd am Beirniadu Carcas Wyn. Llongyfarchiadau i Anwen Jones am cystadlu yn y Beirniadu gwartheg bîff, ac i Sioned Howells am cystadlu yn y torch Nadolig.
Diolch i holl drigolion yr ardal a wnaeth cyfrannu at y y Canu Carolau a wnaeth ddod a cyfanswm o £1,168.28. Fe wnaeth yr arian yma cael eu rhannu rhwng Beiciau Gwaed Cymru a CFFI Llanllwni.
Fe aeth nifer o aelodau y clwb ar trip dirgel y Sir a gaeth eu trefnu gan Llysgynhadon y sir sydd yn cynnwys Siôn Evans sydd yn Llysgennad i’r Sir. Diwrnod llawn hwyl a cymdeithasu.
Fe aeth y clwb hefyd ar daith flynyddol i weld Pantomeim Felinfach. Braf oedd gweld un o aelodau’r clwb sef Owain Davies ar y llwyfan yn perfformio. Llongyfarchiadau iti!
Fe wnaeth aelodau hynaf y clwb fynd i Ddawns Nadolig y Sir yn Abertawe i gefnogi Siôn Evans. Yn wir fe wnaeth pawb fwynhau mas draw!
Cynhaliwyd Cino Nadolig y clwb eleni yn Tafarn y Talardd. Diolch i’r Talardd am y croeso unwaith yn rhagor.
Fe wnaeth y clwb gynnal noson i gyflwyno sieciau i wahanol elusennau ar ôl y holl godi arian. Dyma lle aeth yr arian:
Sioe a Threialon Cwn Defaid 2017: Rhannwyd yr arian rhwng dau elusen sef Ambiwlans Awyr Cymru (£1,145.95) a Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip (1,145.95).
Canu Carolau: Rhannwyd yr arian rhwng Beiciau Gwaed Cymru a Chronfa’r clwb sef £584.14 yr un.
Cwrdd Diolchgarwch: Aeth yr arian (£68) at gronfa’r clwb.
Erbyn hyn mae ymarferion tuag at Cystadleuaeth y Pantomeim wedi dechrau. Pob Lwc i’r aelodau sy’n cystadlu, fydd yr holl hanes i ddod cyn hir.