Cofgolofn newydd Llanfair Clydogau

gan Dan ac Aerwen
Granville yn adeiladu'r Gofgolofn. Llun: Alan Leech.
Granville yn adeiladu’r Gofgolofn. Llun: Alan Leech.

O’r diwedd, mae pentref a phlwyf Llanfair Clydogau wedi cael ei chofgolofn. Mae hyn wedi digwydd trwy ddiddordeb ac ymchwil dyfal Sally ac Alan Leech.

Mae enwau 54 o bobl â chysylltiad â’r plwyf ac a oedd wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar y gofgolofn. Bu farw 11 o’r rhain. Mae hefyd enwau 54 a fu’n gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd ar y gofgolofn. Bu farw 4 o’r rhain.

Mae’r gofgolofn erbyn hyn wedi ei hadeiladu yn erbyn mur mynwent Eglwys Santes Fair ar y sgwâr. Cynlluniwyd y gofgolofn gan y pensaer Chris Hess, Glanrhyd a’i hadeiladu gan Grenville Evans o Lanbed.

Mae llyfr ar fin cael ei gyhoeddi, wedi ei ysgrifennu gan Sally Leech, Tanyresgair. Bydd 356 o dudalennau yn y llyfr yn olrhain manylion bywgraffyddol y rheiny a enwir ar y gofgolofn, yn ogystal â llawer o luniau. Bydd y llyfr hwn yn destun diddordeb i lawer o bobol. Bydd y llyfr yn costio £15 yr un ac yn gofnod i’w drysori ar gyfer y dyfodol.

Dadochuddir y gofgolofn ar Sul y Cofio eleni gan Iris Quan, Blaen-cwm, a gwasaneithir gan y Parch Bill Fillery am 2.30 o’r gloch.  Yna bydd paned a lluniaeth ysgafn yn Neuadd y Pentref lle bydd y llyfr ar werth.  Gyda’r hwyr wedyn tennir goelcerth ger fferm Llanfair-fach fel rhan o gadwyn genedlaethol o goelcerthi i nodi diwedd y rhyfel byd.

Croeso cynnes i bawb ymuno yn y diwrnod arbennig hwn a fydd yn coffau plwyfolion a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd.