Nid yn aml iawn y mae Aelod Seneddol yn datgelu cyfrinachau personol. Papurau newyddion sy fel arfer yn mynd ar ôl y rheiny.
Ond yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc mae ‘Tin Tin’ neu Ben Lake o Lanbed sy’n Aelod Seneddol Ceredigion yn ateb cwestiynau personol ar gyfer colofn Cadwyn Cyfrinachau.
Gallwch ddarganfod sawl ffaith ddiddorol. Sawl milltir y dydd mae e’n cerdded bob dydd yn San Steffan er enghraifft. A phwy wyddai fod ganddo gymhwyster Deifio Scwba?
Mae aelodau seneddol yn adnabyddus am liwio’r gwirionedd, ond beth oedd y celwydd diweddaraf i Ben Lake ei ddweud? Ydy e’n dyfaru unrhywbeth? Pryd aeth e’n grac ddiwethaf? Beth oedd y peth ofnadwy wnaeth e i gael row gan rywun?
Mynnwch gopi o Clonc mis Mai a chewch ddysgu mwy am Ben, ein Aelod Seneddol gweithgar ifanc.