Cyngerdd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Llanllwni

Annwen Evans
gan Annwen Evans

Ar Nos Wener 4ydd o Fai, cynhaliwyd Cyngerdd yng Nghapel Nonni Llanllwni a oedd wedi’i drefnu gan Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Eglwys Llanllwni. Artistiaid y noson oedd Bois ar Wasgar a disgyblion Ysgol Llanllwni.

Cyn-ddisgybl o Ysgol Eglwys Llanllwni oedd ein arweinydd sef Mr Owain Davies, Gwndwn, Llanllwni. Gwnaeth pawb fwynhau ei hiwmor wrth lywio trefn y noson. Braf oedd gweld plantos ieuengaf yr Ysgol yn cymryd rhan yn ogystal â’r plantos hynaf.

Cawsom wledd o ganu ac ambell i joc gan ‘Bois ar Wasgar’. Braf iawn oedd clywed grŵp o fechgyn yn canu’n swynol a graenus o dan arweiniad Irene Williams, gydag Elfyn Davies yn cyfeilio.

Roedd y noson yn un lwyddiannus dros ben a braf oedd gweld doniau lleol a thalent cefn gwlad ar ei orau. Gwnaethpwyd elw oddeutu £550 o’r noson. Diolch yn fawr i bawb a wnaeth y noson yn un lwyddiannus ac i bawb wnaeth gefnogi.