Cytundeb i Academi Criced i Tomos

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’n bosib i chi ddarllen am Tomos Jones y cricedwr ifanc yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc.  Dyma fab Dorian a Rhian Jones, Glennydd, Llanbed sy’n fyfyriwr blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Pedr.

Yn fowliwr cyflym gyda chlwb Uwch Gynghrair Pen-y-bont-ar-Ogwr, mae Tomos wedi arwyddo cytundeb academi gyda Chlwb Criced Morgannwg ar gyfer tymor criced 2018.

Ymunodd Tomos â Phen-y-bont-ar-Ogwr ddau dymor yn ôl bellach o glwb Cynghrair De Cymru Clwb Criced Bronwydd. Sialens anferthol iddo, ond symudiad a ysgogwyd gan ei berthynas â chyn hyfforddwr Pen-y-bont Darren Thomas, ac mi gafodd Tomos dymor llwyddiannus iawn yn 2017.

Yn ystod un penwythnos cofiadwy ym mis Awst, mi wnaeth y bowliwr cyflym ifanc ddisgleirio i Ben-y-bont mewn gêm gynghrair yn Uwch Gynghrair De Cymru Thomas Carroll, ac yna i dîm Siroedd Hŷn Cymru mewn gêm Bencampwriaeth Unicorns yn erbyn Swydd Henffordd yn Eastnor. Wrth i Ben-y-bont guro Ynysygerwn o 8 wiced ar Gaeau Trecelyn, cafodd Tomos ei ffigurau bowlio gorau hyd yn hyn yn yr Uwch Gynghrair sef 7.5-2-12-4; yna’r diwrnod canlynol tra’n cynrychioli tîm Siroedd Hŷn Cymru mi wnaeth serennu fel batiwr i gychwyn. Gyda Chymru mewn dyfroedd dyfnion ar 151-9, rhannodd Tomos bartneriaeth o 91 rhediad am y wiced olaf gyda chwaraewr Lloegr dan 19 oed Prem Sisodya (Clwb Criced Caerdydd). Yna, pan ddaeth yn amser iddo fowlio, cipiodd Tomos ddau wiced gynnar mewn ymdrech agoriadol danllyd 8-2-19-2.

Tomos gyda Academi Heathrow
Tomos gyda Academi Heathrow

Yn ôl John Morgan, Cadeirydd Clwb Criced Pen-y-bont-ar-Ogwr, “Mae Clwb Criced Pen-y-bont yn hynod o falch o Tomos Jones a’i deulu cefnogol.” Dywedodd cyn chwarewr Morgannwg a thîm ‘A’ Lloegr Darren Thomas, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y bowliwr cyflym ifanc o Lambed dros y blynyddoedd, ei fod yn hapus iawn drosto – “Mae Tomos yn llawn haeddu’r cytundeb academi gan Forgannwg. Mae wedi gweithio’n galed iawn ar ei gêm ac mae’n fachgen grêt i’w hyfforddi.”

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer tymor 2018 bu aelodau Academi Clwb Criced Morgannwg a’u hyfforddwyr Richard Almond, Dave Harrison a Adrian Shaw yn treulio 10 diwrnod yng Ngholeg Hilton ger Durban, De Affrica rhwng Chwefror 14eg-25ain. Profiad anhygoel i Tomos a’i gyd aelodau o’r academi. Pob lwc iddo yn ystod tymor criced 2018 ac i’r dyfodol.