Diddordeb mewn chwarae pêl-rwyd?

gan Llewod Llambed
Llewod Llambed
Llewod Llambed

Mae Llewod Llambed yn glwb pêl-rwyd newydd sbon i ferched neu fenywod Llanbedr Pont Steffan. Prif bwrpas y clwb yw cael hwyl, yn ogystal â chymdeithasu a chadw’n heini. Croesewir merched neu fenywod o bob oed (dros 16), o bob lefel o ffitrwydd a phob gallu, i ymuno gyda ni. Ceir llawer o ddiddordeb hyd yn hyn gan ferched nad ydynt wedi chwarae ers eu dyddiau ysgol.

I ddechrau, aeth dwy ohonom a oedd yn awyddus i ddechrau grŵp pêl-rwyd i gyfarfod â rhai o ferched Bont Blades. Rhaid cydnabod eu hanogaeth, cefnogaeth a chyngor sydd wedi bod yn amhrisiadwy. Dechreuon nhw glwb Bont Blades ychydig flynyddoedd yn ôl ac maent bellach yn chwarae yng Nghynghrair Pêl-rwyd Ceredigion. Am gyflawniad gwych, o ystyried poblogaeth pentref Pontrhydfendigaid!

Clwb Pêl-rwyd Bont Blades
Clwb Pêl-rwyd Bont Blades

Y mae Cynghrair Pêl-rwyd Ceredigion wedi bod yn hael iawn a chynnig (ac ariannu) dau sesiwn blasu “Back2Netball” yn rhad ac am ddim i ni fel clwb yng Nghanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan ar nos Iau’r 22ain o Fawrth a’r 19eg o Ebrill rhwng 7:30 a 9yh. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal gan hyfforddwyr arbenigol ac maent yn agored i bob menyw a merch dros 16 oed i fynychu.

Nid oes angen i chi gofrestru, dim ond mynychu mewn dillad addas, gwisgo esgidiau rhedeg, ymuno yn yr hwyl a dod â dŵr i dorri syched. Yn dilyn y sesiynau blasu hyn, os oes digon o ddiddordeb bwriedir cwrdd yn wythnosol i ymarfer ac efallai gallwn ni drefnu ychydig o gemau cyfeillgar. Wedi dweud hyn, os oes digon o aelodau sydd eisiau chwarae yn fwy cystadleuol, efallai byddai modd i ni ymuno â Chynghrair Ceredigion y tymor nesaf.

Gwahoddir unrhyw ferched sydd â diddordeb mewn chwarae i ymuno â’n tudalen Facebook, Llewod Llambed Lampeter Lionesses, lle bydd diweddariadau rheolaidd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud. Gall unrhyw fusnesau lleol sydd â diddordeb mewn noddi ni hefyd gysylltu â ni trwy’r dudalen Facebook.

Ar hyn o bryd, mae gennym 82 o aelodau sydd wedi ymuno â’n grŵp Facebook felly rydyn ni’n weddol hyderus y bydd cefnogaeth dda i bêl-rwyd yn Llanbedr Pont Steffan ac y bydd y clwb newydd hwn yn un llwyddiannus. Gyda lwc, efallai y gall ein stori ni ysbrydoli eraill i sefydlu mwy o glybiau chwaraeon lleol – byddai’n braf gweld clybiau megis criced a thenis yn dechrau nôl yn Llanbedr Pont Steffan.