Pencampwr gyda hwrdd yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ac ennill cystadleuaeth barddoniaeth Filanél yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llongfarchiadau i Huw Evans, Allgoch am wneud y dwbl eleni eto. Fe sy’n rhagori yn adran Defaid Llanwenog yn y Sioe Fawr bob blwyddyn ac enillodd gystadleuaeth erthyglau i bapur newydd yn y Genedlaethol y llynedd.
Eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, daeth yn fuddugol am ysgrifennu Filanél. Mesur dieithr i lawer ohonom. Dywed y beirniad T James Jones “fod y mesur yn gofyn am bedwaru dwy linell”, mesur “sy’n nodweddu cerdd enwog Dylan Thomas, ‘Do not go gentle into that good night,/ Rage, rage against the dying of the light’.”
Ac am gerdd Huw Evans, dywed y beirniad “Dyma gyrraedd safon teilyngdod. Rhydd y darlun dychmygus o ‘lygaid-cyfri-praidd’ agoriad atyniadol i’r gerdd. Ac mae pedwaru’r llinell ‘â Ffan a Moss o’i ddeutu’n llyfu llaw’ yn rhoi cynhesrwydd hyfryd i’r llun.
Ceir ambell berl o ddelwedd, megis ‘Y borfa’n llonni i gennad cog…’. Ond prif gamp y gerdd yw ei chynildeb, yn enwedig wrth ymatal rhag datgelu oedran y bugail tan y pennill olaf.”
Llongyfarchiadau calonnog. Bardd ac amaethwr o safon cenedlaethol yn ein plith.