gan
Dylan Lewis
Llongyfarchiadau i’r Athro D Densil Morgan, Y Gilfach, Llanbed ar gyhoeddi ei lyfr diweddara – Theologia Cambrensis sef Hanes Crefydd a Diwinyddiaeth Brotestanaidd yng Nghymru o 1558-1760.
Lansiwyd y llyfr ym Mhabell Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd a chymerwyd rhan gan y Dr Robert Pope, yr Athro Ceri Davies a’r Parchg Euros Jones.
Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru a’r pris yw £25. Dyma’r gyfrol gyntaf o ddwy. Bu Densil yn traddodi’r ddarlith ddiwinyddol yn y Cynulliad ar y dydd Llun yn y Cymdeithasau a chafodd gynulleidfa arbennig.
Eleni hefyd, Densil yw Consort Maer Llanbed. Cyrhaeddiad mawr ar gyhoeddi llyfr mor swmpus a blwyddyn fawr iddo ef ac Ann yn y dref.