Mae Gwesty’r Llew Du Llanbed yn ail agor nos Wener hyn wedi cyfnod o dros flwyddyn ar gau. Dyma brif westy tref Llanbed sy’n adeilad eiconig ar y Stryd Fawr.
Roedd yn ddolur llygaid i bawb o weld y ffenestri wedi eu gorchuddio wedi i fragdy Brains gau’r lle’r llynedd. Ond erbyn hyn, mae’r lle wedi ei adnewyddu tu fewn a chynlluniau am fwy o waith yn y dyfodol.
Mae hyn yn adfywio tipyn ar galon y dref wedi i gymaint o fusnesau ddiflannu yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd hi’n braf gweld y Llew Du ar agor unwaith eto a chynhesrwydd golau yn y ffenestri.
Dyn o’r enw Dave Lipiatt sy’n ddatblygwr eiddo ac yn berchen ar sawl tafarn sydd wedi prynu’r Llew Du, a gŵr busnes lleol Nick Wright sydd mewn partneriaeth ag ef ac yn gyfrifol am godi’r hen le nôl ar ei draed unwaith eto.
Dywedodd Nick “Rydym wedi gweithio’n galed yn yr wythnosau diwethaf yn addurno’r bar a gosod cegin newydd. Byddwn ni’n gweini bwyd yma gan gynnwys carferi.”
Yn ogystal â hyn, gwelwyd Tafarn Cwmann a’r Bridge End ger Crug-y-bar yn ail agor eu drysau’n ddiweddar. Ar y llaw arall, mae pentrefi fel Gorsgoch a Llanwnnen dal yn ddi-dafarn. Caewyd Cefn Hafod a’r Grannell eleni.
Ydy dyfodol tafarnau gwledig yn y fantol? Mae’n anodd dweud, o weld rhai’n ail agor ac eraill yn cau. Ond testun o lawenydd yw croesawi’r Llew Du yn ôl gan wneud Llanbed yn dref sy’n darparu dewis da o letygarwch unwaith eto.
Ann Bowen Morgan, Maer y dref a fydd yn agor y Llew Du yn swyddogol, a dywedodd “Rydym yn falch iawn ar y Cyngor Tref fod y Llew Du sef tafarn a gwesty hynaf Llanbed yn ail agor Ddydd Gwener. Dymuniadau gorau i’r perchennog a’i gwmni gan obeithio y bydd yn llwyddiannus a phobl yr ardal yn cefnogi.”
Mae’r Castle Green a’r Bush wedi bod yn nwylo teuluoedd sefydlog ers blynyddoedd. Pwy sy’n cofio am Glyn a Dilys Jones yn y Llew Du rhai blynyddoedd yn ôl? A Dai ac Anne Jones yn y Royal Oak a Phil a Joy Patterson yn y Kings Head wedyn? Dyddiau da yn wir.
Rhaid llongyfarch yr unigolion a’r cwmnïoedd sy’n buddsoddi yn ein tafarnau. Ewch chi am ddiod fach yn rhywle’r Nadolig hwn? Beth am fwyd? Does dim angen mynd ymhellach. Cefnogwch fusnesau lleol. Yfwch, bwytewch a byddwch lawen!