Neuadd Albert 2018

gan Alun Jones

Mae’r atyniad o gael perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, yn apelio yn fawr yn fawr at bawb. Er engrhaifft mi allwch fod yn leisydd, adroddwr, gomedïwr neu gerddorfa. Felly dyma oedd hanes pedwar ar bymtheg o aelodau Côr Meibion Cwmann a’r Cylch dros y penwythnos diwethaf, penllanw dwy flynedd o ddysgu a chydganu gydag ugain o gorau eraill Cymru a thu hwnt mewn Côr o wythcant dan arweinyddiaeth medrus Dr Alwyn Humphreys MBE.

Mae’r wefr o ganu mewn Neuadd mor foethus yn rhoi ias ar gefn y perfformwyr a’r gwrandawyr, ac ambell Amen yn siglo y nenfwd, a brwdfrydedd lleisiol y bechgyn yn atsain o amgylch yr awditoriwm. Roedd Dr Alwyn wedi gwneud sawl trefniant ar gyfer y cyngerdd yma, ond fy marn i, y caneuon Cymraeg ddaeth i’r brig nos sadwrn oedd Anfonaf Angel (Robart Arwyn), Y Tangnefeddwyr (Eric Jones) a Rachie trefniant Alwyn Humphreys yn rhoi stamp Gymreig i’r noson.

Sefydlwyd Cymdeithas Corau Meibion Cymru yn 1962 i hyrwyddo a meithrin canu corawl i fechgyn, ac mae Côr Cwmann wedi cefnogi y cyngherddau hyn ers 1980. Roedd tri digwyddiad mawr yn Llundain dydd Sadwrn, ond hwn oedd yn bwysig i Gôr Cwmann, ac maent yn gwerthfawrogi cefnogaeth y chwech deg a ddaeth gyda hwy ar benwythnos godidog yn mis Mai.