Mae oedfa ar fore Sul Gŵyl y Banc mis Awst yn oedfa sy’n rhan o ddathliadau Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan. Tro’r Eglwys yng Nghymru oedd ein croesawu eleni – Eglwys San Pedr. A chawsom groeso penigamp; diolch iddyn nhw am eu paratoadau.
Trefnwyd y gwasanaeth gan y Deon Bro, y Parchedig Ganon Philip Wyn Davies. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Aled Lewis, curad Tregaron, gyda chymorth y Parchedig Jenny Kimber, Offeiriad Cyswllt yn Eglwys San Pedr. Dilynwyd trefn y Boreol Weddi; cafwyd pregeth fer a phwrpasol gan Aled Lewis, yn sôn am ein hetifeddiaeth yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymerwyd rhan hefyd gan aelodau o eglwysi Cymraeg eraill y dref: Ann Bowen Morgan ar ran Noddfa, Rhys Bebb Jones yn cynrychioli Shiloh, a Huw Jenkins o Soar. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Debra Davies.
Roedd y gynulleidfa’n gref, er gwaetha’r glaw mawr yn Llanbed fore Sul! Ac roedd hi’n werth clywed y canu cynulleidfaol yn morio canu emynau cyfarwydd, hen a newydd – ‘Efengyl tangnefedd’, ‘Dyma Feibil annwyl Iesu’, ‘Gair Disglair Duw’, ac wrth gwrs, yr emyn a’r dôn sy’n rhan annatod o Eisteddfod Llanbed, ‘Tydi a wnaeth y wyrth’ ar y dôn ‘Pantyfedwen’.
Braf oedd cael cyfle am sgwrs dros baned a chacen ar derfyn yr oedfa, cyn troi am adref.
Gwnaed casgliad i Gadwyn Teifi, prosiect eciwmenaidd i gyflogi gweithiwr ieuenctid yn nhalgylch ysgolion uwchradd Bro Pedr a Henry Richard, gyda’r nod o hybu’r ffydd Gristnogol ymhlith ein pobl ifanc.