David Heath o Lanbed sy’n datgelu cyfrinachau yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.
Reparo peips dŵr gyda J D Evans Cyf yw ei waith o ddydd i ddydd ac mae e wrth ei fodd yn dod i adnabod ardaloedd newydd yn ddyddiol. “Dw i di bod ym mhob twll a chornel o Geredigion a Sir Gâr credwch chi fi!” meddai.
Mae ganddo atgofion melys o dreulio ei blentyndod ar Fferm Cwmhendryd ac mae’n cofio “mamgu Cwm” gydag pharch.
Ond beth yw ei lysenw? Sut fyddai’n gwario £10,000? Beth oedd yr eiliad balchaf iddo’n broffesiynol? A phwy oedd y dylanwad mwyaf arno? Cewch wybod y cyfan yn y rhifyn cyfredol o Bapur Bro Clonc.
Cafodd yr anrhydedd o fod yn gadeirydd CFfI Felinfach wrth iddynt gynnal Rali’r Sir eleni, ac mae’n siarad yn annwyl am ei ddiweddar frawd Aidran.
Tudalen ddiddorol iawn yw tudalen ‘Cadwyn Cyfrinachau’ y mis hwn. Gwnewch yn siwr eich bod yn prynu copi. Pam Dai-gestive? “Joio bod yn bach o gowboi!” a “Na be oedd moelad!” Dyma i chi flas yn unig o’r hyn sydd ganddo i’w adrodd.