Swyddogion newydd CFfI Ceredigion

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Swyddogion newydd CFfI Ceredigion.
Swyddogion newydd CFfI Ceredigion.

Llongyfarchiadau i swyddogion newydd CFfI Ceredigion am 2018-19. Brenhines: Elin Haf Jones, Clwb Llanwenog; Ffermwr Ifanc: Iwan Davies, Clwb Llanddewi Brefi; Dirprwyon: Dyfrig Williams, Clwb Llangwyryfon; Lowri Pugh Davies, Clwb Bro’r Dderi; Megan Jenkins, Clwb Llanddewi Brefi (absennol o’r llun) a Dyfan Ellis Jones, Clwb Llangwyryfon.

Cynhaliwyd Dawns Dewis Swyddogion yng Ngwesty Llanina Llanarth nos Wener 16eg Mawrth, a braf yw cyhoeddi bod tri o’r swyddogion newydd yn dod o ardal Papur Bro Clonc.

Elin Haf fydd unfed Brenhines ar ddeg o Glwb Llanwenog.  Wrth ei holi beth mae hyn yn ei olygu iddi hi, ei hateb oedd “Anrhydedd mawr.”  Ychwanegodd, “Fi wedi derbyn llond whilber o gyfleoedd, cyfrifoldebau a sbort fel un o ddirprwyon y sir am eleni a dwi’n gyn aelod iau ar lefel Cenedlaethol.”

Mae Elin Haf wedi bod yn weithgar iawn o fewn y mudiad.  Dywedodd “Llynedd nath y clwb ddathlu 60 mlynedd – blwyddyn llawn dathlu ac un o’r uchafbwyntiau oedd cwblhau’r Sialens 60 milltir a chodi £10,680 tuag at Alzheimers Cymru. Ymlaen i’r 70!

“Fi’n gwisgo’r un crys clwb nawr a beth o ni nôl yn 2003 (wedi bod yn aelod ers 15 mlynedd!) – wedi ca’l gwerth fy arian! Wedi cystadlu a cal llwyddiant mewn amryw gystadlaethau – Adrodd, canu, meimio i gerddoriaeth yn yr Eisteddfod, Siarad Cyhoeddus, Panto, Hanner awr adloniant, Taith Natur, Brwydr Lip-sync, papuro wal, gosod blodau, barnu stoc, pêl-rwyd, hoci, ail-greu hysbyseb, hyrwyddo clwb, cwis – ma’r rhestr yn ddi-ddiwedd! Dw’i hefyd wedi cael profiadau lu yn sgriptio ac arwain wahanol gynyrchiadau yn y clwb.”

“Fi’n joio trampan ac wedi teithio gyda’r mudiad ar daith gyfnewid i’r Alban, ac wedi bod i Kansas i aros gyda theuluoedd. Bydda i’n mynd i’r Alban eto ym mis Awst fel rhan o dîm y Rali Ewropeaidd a byddaf yn teithio i Batagonia gyda’r mudiad yn 2019.”

Mae Lowri Pugh Davies yn aelod o Glwb Bro’r Dderi ers 2003.  Bu hithau’n brysur o fewn y clwb hefyd, “Dwi wedi dal pob swydd o fewn y Clwb – leni fi yw cadeiryddes y Clwb ac yn cynrychioli’r Clwb yng nghyfarfodydd y sir.”

Manteisiodd Lowri ar nifer o deithiau tramor gyda’r mudiad. “Dwi wedi cynrychioli CFfI Cymru yn Strasbourg ac eleni dwi’n mynd i Budapest. Es i ar daith materion gwledig i’r Alban efo CFfI Cymru.

Mae’n byw yn Llangybi ac yn rheoli Canolfan Rhiannon yn Nhregaron. Ychwanegodd “Dwi’n gwneud gwaith crefft yn ogystal.  Y llynedd mi wnes gychwyn menter newydd o droi fy hobi mewn i fusnes ac o ganlyniad mae gennyf fusnes bach yn gwerthu nwyddau dwi wedi greu o ysgrythu ar bren a llechen a gwaith celf. Mae fy mrawd a fi wedi cychwyn diadell Texel ac rydym yn mwynhau cystadlu mewn sioeau lleol.”

Megan gyda'r Ladis Pinc.
Megan gyda’r Ladis Pinc.

Dechreuodd Megan Jenkins (Castell, Llanbed) yn aelod o Glwb Cwmann ond pan gafodd ei mam ei gwneud yn llywydd gyda Chlwb Llanddewi Brefi fe symudodd. Mae wedi cystadlu mewn amryw o gystadlaethau gyda’r clwb, o ganu ac action i goginio.

Dyma Megan yn disgrifio’r clwb: “Rydym yn clwb bach sy’n cyd-weithio fel teulu ac mae’n bleser cael bod yn rhan ohono fe.  Fi yw ysgrifennyddes y clwb eleni, sydd yn anrhydedd mawr. Rwy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd gyda’r mudiad, mwynhau gyda ffrindiau a chreu profiadau gwahanol. Rwy wedi cael sawl swydd yn y clwb dros y blynyddoedd fel trefnydd rhaglen a gohebydd y wasg.” Megan yw ysgrifennyddes tim tynnu’r gelyn Ladis Pinc hefyd.

Edrychwn ymlaen at Rali Felinfach ar yr 2il o Fehefin ar Fferm Sychpant, Trefilan pan welwn y swyddogion newydd i gyd yn eu gwisgoedd hardd.  Dymuniadau gorau i bob un ohonynt.