Swyddogion newydd CFfI Sir Gâr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Swyddogion newydd Sir Gâr gyda llywydd a chadeirydd y sir.
Swyddogion newydd Sir Gâr gyda llywydd a chadeirydd y sir.

Llongyfarchiadau i swyddogion newydd CFfI Sir Gâr am 2018-2019. Llysgenhades – Caryl Jones, Clwb Llanddarog; Llysgennad – Arwel Jones, Clwb Llanllwni; Dirprwyon – Dafydd Davies, Clwb Llandeilo a Sian Elin Williams, Clwb Cwmann.

Cynhaliwyd Dawns Dewis Swyddogion ym Mhenybont Llanfynydd nos Wener 30ain Mawrth, a braf yw cyhoeddi bod dau o’r swyddogion newydd yn dod o ardal Papur Bro Clonc.

Gweithio gatref ar fferm Blaenblodau y mae Arwel Jones ond mae e’n arbenigo mwy ar ochr gontractio amaethyddol na ffermio.  Arwel yw cadeirydd Clwb Llanllwni eleni, ac mae wedi bod yn aelod o’r clwb ers rhyw 12 mlynedd.

Bu’n weithgar iawn mewn bob math o gystadlaethau, ond y rhai mwyaf llwyddiannus i Arwel yw’r campau gwaith coed, ffenso a handlo tractor ac atv yn ogystal â chystadlaethau effeithiolrwydd a diogelwch.  Mae e wedi ennill rhain ar lefel sir ac wedi mynd ymlaen i gystadlu ar lefel Cymru sawl gwaith,  Fel pob aelod arall yng Nghlwb Llanllwni bu mewn ambell gystadleuaeth hanner awr adloniant a phantomeimiau ar hyd y blynyddoedd.

Mae Sian Elin Williams wedi bod yn aelod o Glwb Cwmann ers dyddiau cynnar yr Ysgol Uwchradd.  Ymgymerodd â nifer o swyddi fel creu’r llyfr lloffion, gohebydd y wasg, ysgrifenyddes cofnodion ac eleni hi ydy ysgrifenyddes weithgar y clwb.

Mae Sian Elin yn mwynhau pob agwedd o’r clwb, boed yn gymdeithasol ar nos Wener drwy wneud sgiliau gwahanol, chwaraeon, gwrando ar hanesion siaradwyr gwadd, neu gystadlu a’r lwyfan yr Eisteddfod, Panto neu’r hanner awr adloniant.

“Ni’n glwb ifanc iawn yng Nghwmann” meddai Sian Elin “ac mae gallu arwain a hybu gwaith y CFfI yn bwysig iawn i mi.”  Bu’n hyfforddi’r tîm iau i siarad yn gyhoeddus, helpu gyda chyfarwyddo’r panto a hyd yn oed ysgrifennu sgets ar gyfer yr eisteddfod.

Mae Sian Elin wedi ymgymryd â gwaith y CFfI ar lefel Sirol a chenedlaethol, fel rhan o bwyllgor gwaith a gweithgareddau’r sir,  a phwyllgor digwyddiadau a marchnata Cymru.

Daw Sian Elin o Bencarreg ac mae’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd.

Edrychwn ymlaen at y Rali ar y 12 o Fai pan welwn y swyddogion newydd i gyd yn eu gwisgoedd trwsiadus. Dymuniadau gorau i bob un ohonynt.