Taith Tractors Drefach 2018

gan Hazel Thomas

Fe wnaeth cyfanswm o 76 o dractorau cyrraedd Maes yr Onnen, Drefach Llanwenog ar fore Sul Mai 27 i gymryd rhan yn y bedwaredd Daith Tractor.

Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad eleni yn cael ei roi i Faes Chwarae Drefach. 

Dechreuodd y digwyddiad gyda raffl ac ocsiwn am 10.30  yng ngofal Mark Davies o Evans Bros ac ar hyn o bryd mae’r cyfanswm wedi cyrraedd £1,637. Bydd gwybodaeth bellach am y cyfanswm a godwyd yn cael ei gynnwys yn rhifyn Gorffennaf Clonc.

Fel yn y blynyddoedd o’r blaen roedd y digwyddiad wedi denu tyrfa fawr o bob rhan o’r gymuned leol.

Hoffai’r trefnwyr ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r digwyddiad, o’r gyrwyr tractor a oedd wedi cymryd rhan, y busnesau lleol a noddodd y digwyddiad yn garedig gan hysbysebu yn y rhaglen ac i’r holl bobl a ddarparodd wobrau raffl, a rhoddion.

Os hoffai unrhyw un gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, gallwch gysylltu gyda’r trefnydd, Pete Davies ar 01570434342

Lluniau yn garedig gan Laurence Eburn