Mae’n benwythnos unwaith eto, a Cherddwyr Llambed wedi bod yn troedio ardal wahanol.
Mae aelodau’r gymdeithas yn gwahodd aelodau newydd i ymuno â nhw ar ddechrau blwyddyn fel hyn er mwyn ceisio cadw at yr addunedau o gadw’n heini.
Heddiw, bu’r criw yn ardal Castell Newydd Emlyn gan wneud taith fach o 5 milltir.
Ar y 10fed Chwefror byddan nhw’n mentro ar dair hirach yn Llangrannog gan obeithio gweld yr haul, traethau a’r môr. Cwrdd yn y Rookery am 10yb.
Ar y 17eg Chwefror, ceir taith ychydig mwy parchus yn ardal Drefach Felindre. Cwrdd yn y Rookery unwaith eto am 10yb er mwyn ymweld â’r Amgueddfa Wlân. 6 milltir.
Cerddir 7 milltir ar y 24ain Chwefror tuag at Nant Aeron ac ardal Skanda Vale. Cwrdd yn y Rookery am 10yb.
Ac i ddathlu Gŵyl Dewi, byddan nhw’n bwrw am Landdewi Brefi ar y 3ydd Mawrth. Gellir clywed yr hanesion lleol a basned o gawl i ddod dros y daith. Dim ond 6 milltir a thaith gymhedrol.
Teithiau difyr lleol, cwmni da a digon o ymarfer corff hamddenol. Gellir cael mwy o wybodaeth gan Kay 480041 neu James 480743.