Ar benwythnos Mai 19eg a 20fed, cynhaliwyd Twrnament Pêl-droed blynyddol Clwb Pêl-droed Ieuenctid Llanybydder ar gae Rygbi Llanybydder, Parc OJ.
Ar ôl misoedd o baratoi, daeth y penwythnos mawr. Roedd y tywydd wedi bod yn braf trwy’r wythnos, gwnaeth hyn yr adeiladu a’r cynllunio yn haws o lawer i bawb.
Bu llawer o ddiddordeb gan dimau lleol, i dimau o gryn bellter i ffwrdd yn Ne Cymru. Braf oedd gweld ein diddordeb yn ymestyn môr bell.
Ar y dydd Sadwrn 19eg, roedd yna tri oedran o chwarewyr yn cystadlu, Dan 6, Dan 10 a Dan 16.
Roedd y tywydd yn grasboeth ar haul yn tywynnu ac er y tymerhedd poeth, roedd safon y peldroed yn werth ei weld.
Ar ol y cystadlu brwd roedd rhaid cael enillwyr. Canlyniadau y dydd oedd:
Dan 6:- Enillwyr – Llanybydder.
Yn ail :- Ffostrasol.
Dan 10:- Enillwyr – Llanbed
Yn ail:- Porthcawl.
Dan 16:- Enilwyr – Sêr Caerfyrddin
Yn ail – Aberaeron.
Ar y dydd Sul 20fed, tro y plant Dan 8, 12 a 14 oedd e, yr un oedd y brwdfrydedd, a’r cystadlu. Canlyniadau’r dydd oedd:
Dan 8:- Enillwyr – Llandysul
Yn ail :- Llanbed.
Dan 12:- Enillwyr – Aberaeron.
Yn ail :- Llanbed.
Dan 14:- Enillwyr – Llanbed.
Yn ail :- Llwynypia.
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr, ond mwy na hynny, gobeithio cafodd y plant i gyd fwynhad trwy chware y pel-droed a chystadlu.
Ar ran Clwb Llanybydder, diolchwn i’r plant, rhieni a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth trwy’r penwythnos, ond y diolch mwyaf i’r gwirfoddolwyr a’r busnesau lleol am eu hamser, eu haelioni am wneud y penwythnos yn un llwyddianus a hwylus i bawb. Croesawn bawb i ddychwelyd am ein twrnament yn 2019.