Timoedd pêl-droed o bell ac agos yn Llanybydder

gan Gareth Williams

Ar benwythnos Mai 19eg a 20fed, cynhaliwyd Twrnament Pêl-droed blynyddol Clwb Pêl-droed Ieuenctid Llanybydder ar gae Rygbi Llanybydder, Parc OJ.

Ar ôl misoedd o baratoi, daeth y penwythnos mawr.  Roedd y tywydd wedi bod yn braf trwy’r wythnos, gwnaeth hyn yr adeiladu a’r cynllunio yn haws o lawer i bawb.

Bu llawer o ddiddordeb gan dimau lleol, i dimau o gryn bellter i ffwrdd yn Ne Cymru. Braf oedd gweld ein diddordeb yn ymestyn môr bell.

Ar y dydd Sadwrn 19eg, roedd yna tri oedran o chwarewyr yn cystadlu, Dan 6, Dan 10 a Dan 16.

Roedd y tywydd yn grasboeth ar haul yn tywynnu ac er y tymerhedd poeth, roedd safon y peldroed yn werth ei weld.

Ar ol y cystadlu brwd roedd rhaid cael enillwyr. Canlyniadau y dydd oedd:

Dan 6 Llanybydder
Dan 6 Llanybydder

Dan 6:- Enillwyr – Llanybydder.
Yn ail :- Ffostrasol.
Dan 10:- Enillwyr – Llanbed
Yn ail:- Porthcawl.
Dan 16:- Enilwyr – Sêr Caerfyrddin
Yn ail – Aberaeron.

Ar y dydd Sul 20fed, tro y plant Dan 8, 12 a 14 oedd e, yr un oedd y brwdfrydedd, a’r cystadlu.  Canlyniadau’r dydd oedd:

Dan 14 Llanbed
Dan 14 Llanbed

Dan 8:- Enillwyr – Llandysul
Yn ail :- Llanbed.
Dan 12:- Enillwyr – Aberaeron.
Yn ail :- Llanbed.
Dan 14:- Enillwyr – Llanbed.
Yn ail :- Llwynypia.

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr, ond mwy na hynny, gobeithio cafodd y plant i gyd fwynhad trwy chware y pel-droed a chystadlu.

Ar ran Clwb Llanybydder, diolchwn i’r plant, rhieni a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth trwy’r penwythnos, ond y diolch mwyaf i’r gwirfoddolwyr a’r busnesau lleol am eu hamser, eu haelioni am wneud y penwythnos yn un llwyddianus a hwylus i bawb.  Croesawn bawb i ddychwelyd am ein twrnament yn 2019.