Dros Benwythnos Gŵyl y Banc, gwnaeth tîm cwmni hybu Dartiau sydd yn dod o Lambed, ‘Bishop of Bedlam Promotions’, gynnal eu trydydd penwythnos dartiau yng Nghlwb Rygbi Llambed.
Eleni daeth Pencampwr y Byd teirgwaith, ‘Wolfie’ Martin Adams, i’r dre a chwarae darts godidog yn erbyn chwaraewyr o’r dre ac o i ffwrdd, ac mi wnaeth ddiddori pawb a ddaeth i wylio â’i chware a’i storiau.
Hefyd yn Llambed am y Penwythnos Dartiau roedd y Band Pibau o Jedburgh o’r Alban. Gwnaethon nhw ddiddanu pawb a ddaeth i wylio’r Dartiau a hefyd gwylio y gêm rygbi yn erbyn Penybanc ac o gwmpas y dre ar y Sadwrn.
Dymuna’r tîm Bishop of Bedlam ddiolch i noddwyr y Penwythnos – Richard Jarman True Potential Wealth Management, Philip Jones Financial Solutions, Jim Hussell – Y Sioe Roc, Y Stwdio Brint, Davies & Jenkins Fencing Contractors, Siop Dartiau ‘Love The Darts’ Clwb Rygbi Llambed, Cegin Gwennog a Pies R Us o Kelso. Diolch yn Fawr hefyd i Martin a John Fowler am y Dartiau, Band Pibau Jedburgh am yr adloniant dros yr ŵyl a Tracy a Danny o elusen Prostate Cancer UK.