Gwynfor Lewis wrth gwrs!!!!
Ar y 5ed o Orffennaf eleni bydd y gwasanaeth iechyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed ers ei sefydlu nôl yn 1948.
Mae un o fabis cyntaf y gwasanaeth iechyd yng Nghaerfyrddin yn byw yn Llanbed, a’i fam dal i fyw yng Nghwmann.
Fedrwch chi ddyfalu pwy yw e?
Sefydlwr y Gwasanaeth Iechyd a’i brif bensaer oedd y Cymro Aneurin Bevan, Gweinidog Iechyd. Cyn hynny, darperid gofal iechyd mewn modd tameidiog ac anghyson. Yr oedd yn rhaid i lawer o bobl dalu’n uniongyrchol am wasanaethau gofal sylfaenol a gofal ysbyty, tra oedd eraill yn methu â derbyn y gwasanaethau a oedd eu hangen arnynt.
Y nod oedd i’r Gwasanaeth Iechyd gael ei gyllido trwy drethi cyffredinol, a byddai’n cael ei weithredu ar sail egwyddorion Di-dâl wrth y man darparu; Cynhwysfawr; Teg a Chydraddol.
Siaradodd y fam o Gwmann â Clonc360 gan ddweud ei bod wedi cael mynd mewn ambiwlans i Ysbyty Priordy Caerfyrddin ar nos Sul y 4ydd o Orffennaf wedi bod yn dost am ddeuddydd yn y tŷ.
Ond wedi i’r ambiwlans gyrraedd yr ysbyty, ni aethpwyd â hi mewn i weld y meddygon yn syth tan ar ôl hanner nos er mwyn manteisio ar wasanaeth yr NHS newydd ar y 5ed o Orffennaf.
“Ond dim babi cyntaf i gael ei eni yng Nghaerfyrddin oedd e,” medde hi “rasodd rhywun cyn fi o Lanybydder. Cath hi ordinary birth. Ces i cisarean.”
Felly mae’r babi cyntaf i gael ei eni drwy lawdriniaeth Cesaraidd ar yr NHS yng Nghaerfyrddin ynghyd a’i fam dal i fyw yn lleol 70 blynedd yn ddiweddarach. Stori o lwyddiant dyddiau cynnar y Gwasanaeth Iechyd felly!
Ydych chi’n eu hadnabod nhw? Gadewch eich atebion yn y blwch sylwadau isod.