Yr hyfforddwraig sgïo a ‘road rage’!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Hyfforddwraig sgïo yw swydd Sioned Douglas o Lanbed, a hi sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc ar gyfer mis Tachwedd.

Wedi graddio o Brifysgol Metropoltian Caerdydd, chwaraeon yw ei byd hi.  Ond mae’n euog o ‘road rage’.  Nid hi yw’r gyrrwr mwyaf amyneddgar.  Ar y llaw arall, dyw hi ddim yn gallu dweud celwydd.  “Mae’r wyneb yn dangos y cwbl!” medde hi.

O ddarllen colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc, gallwch ddod i adnabod Sioned llawer iawn yn well.

Pryd a ble mae hi’n fwyaf hapus?  Sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr? Petai hi’n anweladwy am ddiwrnod, beth fyddai hi’n ei wneud?  Dyma sawl cwestiwn diddorol sy’n datgelu mwy amdani o fewn cloriau’r papur.

Disgrifia ei hun yn berson hapus, caredig a llawn hwyl.  Cyfaddefa mai ei mam-gu oedd y dylanwad mwyaf arni, ond mynd yn hen sy’n codi ofn arni.

Mynnwch gopi o Bapur Bro Clonc, a mwynhewch y darllen.