Apêl Dias70 yn codi dros £10,000 ar gyfer elusen Macmillan

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

A rhagor i ddod – crys 11 Cymru ar werth, wedi’i arwyddo gan Bale a Giggs

Mae apêl a gafodd ei sefydlu er mwyn dathlu bywyd, Dias Williams, un o sgorwyr goliau enwocaf y canolbarth bellach wedi croesi’r £10,000.

“Mae hyn yn mynd y tu hwnt i bob disgwyliad ac fe fydd rhagor yn dod i mewn,” meddai cadeirydd yr apêl, John Meredith. Y targed gwreiddiol oedd £3,000.

“Mae’n arwydd fod pobol yn dal i gofio am Dias – roedd e’n fachan adnabyddus iawn yn y canolbarth yn enwedig. Ond mae’r achos hefyd – Elusen Macmillan – yn un sy’n cyffwrdd bron pawb ohonom ni mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.”

Silian

Bu farw David ‘Dias’ Williams o ganser yn 1988, ac yntau ar y pryd yn brifathro 39 oed ar Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, ger Aberystwyth.

Ei weddw, Margery, sy’n byw yn Silian a’u dau fab, Owain a Sion, oedd wedi sefydlu apêl i gofio am y blaenwr a ddaeth yn enwog wrth chwarae i wahanol glybiau yng Ngheredigion a Phowys – roedd hynny’n cynnwys sgorio 11 gôl mewn un gêm rhwng Aberystwyth a Llandrindod.

Ddechrau mis Mawrth, fe fu’r teulu’n arwain taith o fwy na 70 milltir er mwy codi arian ar gyfer yr elusen Macmillan.

Dyw apêl Dias70 ddim wedi ei chau eto, ac mae disgwyl i ragor o arian gael ei godi mewn arwerthiant arbennig yn Aberystwyth ddechrau’r mis, lle bydd cyfle i brynu crys pêl-droed Cymru wedi ei arwyddo gan Ryan Giggs a Gareth Bale.

Y rhif 11 sydd ar gefn y crys; rhif Dias ei hun. Gareth Bale a Ryan Giggs yw’r ddau chwaraewr enwoca’ i wisgo’r rhif hwnnw tros Gymru yn y cyfnod modern.

Yr arwerthiant

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal yng ngwesty Llety Parc, Aberystwyth, ar Fai 3.

Mae’r gwobrau eraill yn cynnwys:

  • crys pêl-droed Cymru wedi ei arwyddo gan sawl aelod o’r tîm;
  • crys pêl-droed wedi ei arwyddo gan Geoff Hurst a Martin Peters (y ddau a sgoriodd i Loegr yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1966);
  • baner Manchester United wedi ei harwyddo gan rai o’r chwaraewyr.

Mae unrhyw un sydd eisiau dangos diddordeb yn rhai o eitemau’r arwerthiant ymlaen llaw yn gallu cysylltu â John Meredith ar johnmereds58@gmail.com.