Creadigol, cydwybodol a Chariadus yw’r tri gair y mae gwrthrych colofn Cadwyn Cyfrinachau Papur Bro Clonc yn disgrifio ei hun y mis hwn.
Sian Elin o Bencarreg yw’r sbarcen sy’n ateb cwestiynau mis Mawrth yn y papur bro. Mae’n Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg gyda Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr.
Yn 2017 collodd bedair stôn mewn pwysau, a dyna’r eiliad a newidiodd ei bywyd. Meddai Sian Elin “Dyna’r peth gorau dw i erioed wedi gwneud. Dw i lot yn fwy iach ac yn hapusach.”
Mae wrth ei bodd yn teithio hefyd a’r gwyliau gorau erioed oedd “Teithio De America yn Haf 2018. Gwledydd anhygoel a mor ddiwylliannol.”
Mae’n datgelu llawer iawn mwy yn y golofn. Felly mynnwch eich copi o Clonc er mwyn mwynhau’r hyn sydd ganddi i’w rhannu. Beth yw’r peth gorau am y swydd bresennol? Beth yw’r peth gwaethaf am yr ardal hon? Sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr? Sut mae hi’n ymlacio? Beth sy’n rhoi egni iddi?
Mae rhifyn Mawrth Papur Bro Clonc yn y siopau lleol nawr, a diolch i Sian Elin am fod mor barod i ateb y cwestiynau.