Carnifal a Mabolgampau Cwmann 2019

gan Sian Roberts-Jones

Ar Ddydd Sadwrn, 25ain o Fai, cynhaliwyd carnifal a mabolgampau blynyddol y pentref.

Eleni, penderfynwyd peidio cael brenhines a’i gosgordd yn rhan o’r dydd gyda’r bwriad o gynnal diwrnod llai ffurfiol a chael nifer o weithgareddau i’r plant.

Wedi blynyddoedd o godi arian a chynllunio, fe agorwyd parc chwarae’r pentref yn swyddogol gan lywydd ein dydd, Mr Graham Howell.  Braf iawn oedd ei groesawsu i’n plith yn enwedig yn dilyn ei salwch diweddar a diolch o galon iddo am ei rodd haelionus iawn i goffrau’r pentref.

Gwelwyd nifer o gymeriadau lliwgar yn ymddangos yng nghylch y carnifal gyda’r beirniaid Dylan a Carys Davies yn cael gwres eu traed.

Y buddugwyr yn y gwahanol gategoriau oedd: Cylch Meithrin ac iau: Ilan Alffi; Dosbarth Derbyn: Osian Jones; Bl 1&2: Elin Dafydd Lewis; Bl 3&4: Lyndon Gale; Bl 5&6: Seren Ling; Ysgol Uwchradd: Gwenllian Llwyd; Pâr gorau: Aron ac Efa Russell; Cymeriad gorau’r dydd: Seren Ling.  Y thema ar gyfer y fflôt eleni oedd “Fy hoff gân” a llongyfarchiadau i Megan, Lloyd, Elin a Mari gyda’i fflôt “Baby shark”.

Cafwyd llawer o gystadlu brwd yn y mabolgampau a thipyn o chwerthin wrth i’r plant uwchradd gymeryd rhan yn y ras rwystrau.

Roedd y cae yn fwrlwm o ddigwyddiadau a stondinau, gyda chastell bownsio, sumo wrestlers, Sgiliau, gweithgaredd bêl droed, BBQ, Stondin losin, St John’s a lluniaeth wedi’i ddarparu gan y W.I.

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.