Fe lwyddodd pobl Llanwenog a Llanwnnen i godi cannoedd o bunnoedd at gronfa Eisteddfod 2020 – chreu hanes hefyd.
Nos Sadwrn yn Neuadd Gorsgoch, cynhaliwyd y Stomp a Romp cynta’ yn hanes y byd, gyda wyth o feirdd yn darllen cerddi a chymryd rhan mewn gêmau barddonol.
Y disgwyl yw y bydd y noson wedi codi tua £1,000 at gronfa’r ddau blwyf, gyda mwy na 100 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer yr adloniant a chaws a gwin.
Llwyddodd y bardd Dai Rees Davies hefyd i greu hanes trwy ennill pleidlais y bobl am gerdd fwya’ poblogaidd y noson a chael gwobr o gadair – nid stôl i eistedd arni ond fersiwn defnydd o gadair buwch.
Ef a gweddill tîm Ceredigion – Endaf Griffiths, Hywel Griffiths a Megan Lewis – oedd yr enillwyr yn erbyn tîm Gweddill y Byd – Tudur Dylan Jones, Heiddwen Tomos, Rhys Iorwerth ac Eurig Salisbury.
Roedd y gynulleidfa ei hun yn rhan fawr o’r noson gan bleidleisio i ddewis pa gerddi oedd orau a phwy oedd yn ennill rhai o’r tasgau – roedd y rheiny’n cynnwys chwilio odlau, cysylltu geiriau a pherfformio ‘charades’ gyda theitlau cerddi adnabyddus.
Y limrig
Roedd yna gystadlu brwd rhwng y gwahanol fyrddau hefyd ar gystadleuaeth i orffen limrig. Yn y diwedd, Llywydd y Cynulliad a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Elin Jones o Lanwnnen, oedd yr enillydd.
Dyma sut yr atebodd hi’r ddwy linell gynta’ …
Yn y nef, yr oedd Pedr yn gwylio
Rhag i bobl anaddas fynd yno;
O Gorsgoch a Chwrtnewy’
Doedd neb digon teidi;
Llanwnnen – bob un yn mynd trwyddo!