Cydnabyddiaeth wych wrth dderbyn statws di-blastig

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Rhai gwirfoddolwyr a fu’n casglu sbwriel yn Llanbed.
Rhai gwirfoddolwyr a fu’n casglu sbwriel yn Llanbed.

Mae Llanbedr Pont Steffan wedi ennill statws Cymuned Ddi-blastig! Mae llawer o’r diolch i’r holl drigolion, busnesau a sefydliadau lleol a’u cynrychiolwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cais hwn, a chynhelir digwyddiad cyhoeddus yn fuan i ddathlu’r llwyddiant hwn i’r ardal.

Credir mai Llanbed yw’r ail gymuned mewndirol yng Nghymru, ac yn un o 50 o gymunedau yn y DU hyd yn hyn, i gyflawni Statws Cymunedol Ddi-blastig.

Nid yw hyn yn golygu bod Llanbed bellach yn rhydd o blastig mewn unrhyw fodd, ond ein bod wedi cael ein cydnabod fel rhai sy’n cymryd camau sylweddol i leihau ein defnydd o blastig defnydd sengl.

Mae croeso i bob un o breswywyr, busnesau a sefydliadau Llanbed ymuno â Llanbed Di Blastig, drwy chwilio ar facebook.

Gwastraff plastig yn lleol.
Gwastraff plastig yn lleol.

Dywedodd y Cyng. Dinah Mulholland “Rydw i wrth fy modd bod Llanbed wedi ennill statws di-blastig yn y Gymuned a chredaf ein bod yn un o lond dwrn o gymunedau afonydd mewndirol yng Nghymru i wneud hynny.”

Ychwanegodd “Mae plastig o’n ffyrdd a’n strydoedd yn mynd i’r afonydd, ac mae llawer o’r plastig hwnnw’n aros ar ein tir ar lan yr afon pan fydd yn gorlifo. Mae’r plastigau hynny yn ychwanegu at y plastig o wastraff amaethyddol yn ein caeau, yn torri lawr i ficro-ddarnau ac yn cyrraedd ein cadwyn fwyd. Ac mae’r holl blastig nad yw’n cyrraedd y caeau yn llifo gyda’r Teifi yn syth i Fae Ceredigion.”

“Mae Llanbed yn dref â chalon a chydwybod, ac er nad yw cyrraedd y statws yn golygu bod Llanbed bellach yn rhydd o blastig defnydd sengl, mae’n dangos pa mor ddifrifol yr ydym wrth gymryd camau i leihau ein dibyniaeth ar blastig untro.  Mae statws di-blastig a ddyfarnwyd gan Surfers Against Sewage yn gydnabyddiaeth wych o’n hymdrechion.”