Wieslaw Gdula oedd y siaradwr yng nghyfarfod Cymdeithas Hanes Llambed Mis Mai, yn rhoi hanes teuluoedd y Pwyliaid a ddaeth i ardal Llambed yn union wedi’r Ail Ryfel Byd.
Dod fel ffoaduriaid wnaethant y pryd hynny, yn wahanol i’r Pwyliaid sydd wedi dod i’r ardal yn y blynyddoedd diweddar fel mewnfudwyr yn chwilio am waith. Esboniodd sut y gwnaeth aelodau o’r fyddin Bwylaidd adael eu gwlad yn yr 1940au, gan ymuno â byddinoedd a’r awyrlu Brydeinig, a chymeryd rhan yn y brwydrau ar hyd a lled cyfandir Ewrop.
Eu gobaith oedd dychwelyd i’w gwlad wedi’r Rhyfel ddod i ben, ond oherwydd rheolaeth yr Undeb Sofietaidd, a’r wlad erbyn hynny o dan adain Comiwnyddiaeth, roedd hynny’n amhosibl. Sefydlwyd gwersyll dros dro ar draws gwledydd Prydain i roi lloches i’r Pwyliaid, un ohonynt ger Aberaeron, hyd nes y gallant ddod o hyd i waith ac ail-gartrefu.
Manteisiodd nifer ar y cyfle i fyw a gweithio yng ngorllewin Cymru, a sefydlodd 30-40 o deuluoedd o fewn cwmpas 15 milltir i Lambed. Gwelir tystiolaetrh o’r rhifer a ymsefydlodd yn yr ardal wrth ymweld â mynwent Eglwys Sant Pedr yn y dref, lle mae yna randir gyda nifer o gerrig-beddau ag ar-ysgrifau yn yr iaith Bwyleg.
Ychydig o wybodaeth o fywyd ar y fferm oedd gan lawer, a bu rhaid dysgu’n gyflym. Yn ogystal â hynny, ychydig iawn o Saesneg oedd ganddynt. Sefydlwyd Canolfan Bwylaidd ar waelod Stryd y Bont, lle saif busnes W. D. Lewis a’i fab erbyn hyn, lle medrent ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac i gadw eu traddodiadau ynghyn, ac i gwrdd â’r offeiriad Pwylaidd oedd yn byw yn rhan o’r adeilad. Buan y dysgodd y plant Gymraeg a Saesneg yn yr ysgolion, ond yn siarad mam-iaith eu rhieni ar yr aelwyd.
Diolchwyd i Wieslaw am noson ddiddorol gan y Cadeirydd, a bu yna tipyn o siarad ac hel atgofion ymysg yr aelodau a rhai o’r ffrindiau Pwylaidd yn y gynulleidfa.