Ar ddydd Sadwrn y 5ed o Hydref, dechreuodd Clwb Hoci Llanybydder eu tymor yng Nghynghrair 4 Hoci De Cymru.
Gwelwyd gwaith tîm arbennig i sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf yn y gynghrair yn erbyn 6ed dîm Seintiau Eglwys Newydd.
Roedd Llanybydder ar y blaen 1-0 ar yr hanner, cyn ennill y gêm 6-0 yn y diwedd.
Sgorwyr: Ellie Thomas (2), Rhian Thomas (2), Luned Haf Jones ac Elen Huana Powell
Chwaraewraig y Gêm: Rhian Thomas
Chwaraewraig y Chwaraewyr: Rhian Thomas
Chwaraewraig Dan 18: Ellie Thomas
Chwaraewyr y Capten: Gwyneth Richards a Lois Mai Jones
Diolch yn fawr i Gwyneth am gamu i’r adwy a bodloni i chwarae fel gôl-geidwad funud olaf. Diolch i’r chwaraewyr i gyd am roi 100%, fel arfer. Diolch hefyd i Morgan & Davies am noddi’r gêm hon.
Gêm gartref wythnos nesa yn erbyn 5ed Tîm Met Caerdydd am 10.30. Bydd y Tîm Iau yn dechrau eu tymor nhw ddydd Sadwrn hefyd, gyda gêm oddi cartref am 2.30 yn erbyn Castell Newydd Emlyn yn Aberteifi.