Eisteddfod C.Ff.I. Sir Gâr 2019

gan Cffillanllwni

 

Mis Hydref – mis yr Eisteddfod! Pinacl y flwyddyn i nifer ohonom, wedi wythnosau prysur o ymarfer. Daeth y Sir ynghyd i Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin ar gyfer tri diwrnod prysur o gystadlu.

Roedd y neuadd yn orlawn a’r clybiau yn cystadlu am y darian a phleser oedd clywed ein bod wedi dod yn bedwerydd yn y darian gwaith cartref, a phumed yn Nharian yr Eisteddfod.

Dyma restr o’r canlyniadau :

1af : Ifor, Hefin a Sioned – Triawd Doniol

1af : Owain Davies – Llefaru dan 26

1af : Hanna a Catrin – Sgen ti dalent?

1af : Owain, Dan ac Ifor – Ar y Newyddion

1af : Sioned Howells – Ysgrifennu Limrig

2il : Owain Davies – Sgen ti dalent?

2il : Sgets

3ydd : Meimio i Gerddoriaeth

3ydd : Sioned Bowen – Cerdd dan 26

3ydd : Cywaith Clwb

3ydd : Dawnsio Gwerin

3ydd : Sioned Howells – Brawddeg

 

Ar ran holl aelodau’r clwb, hoffwn ddiolch i’r holl hyfforddwyr, rhieni a chefnogwyr y clwb am bob cefnogaeth yn ystod yr wythnos diwethaf. Llongyfarchiadau i bawb fuodd wrthi’n cystadlu, a phob lwc i’r rheiny fydd yn cael eu dewis i fynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn Wrecsam ar y 30ain o Dachwedd.

Byddwn yn ail berfformio rhan fwyaf o gystadlaethau’r Eisteddfod yn ein Swper Cynhaeaf, ar yr 22ain o Hydref yn Neuadd yr Eglwys, Maes-y-crugiau, i ddechrau am 7:30yh. Cewch fwynhau cawl a phwdin gydag adloniant lleol – dewch yn llu!