Eisteddfod Lwyddiannus arall i Ysgol Bro Pedr

gan Ifan Meredith
Parti Bechgyn Creuddyn.
Parti Bechgyn Creuddyn.

Cafwyd Eisteddfod ysgol lwyddiannus arall yn ysgol Bro Pedr ar yr 10fed a’r 11eg o Ragfyr 2019 a’r Pigion ar y 12fed o Ragfyr. Cafwyd cystadlu brwd trwy gydol y diwrnod a hanner.

Newidwyd dyddiad yr Eisteddfod eleni o fis Chwefror i fis Rhagfyr a bu llawer o’r eitemau yn eitemau Nadoligaidd o’r ‘Un Bugail Bach’ i ‘Ymunwch yn y Simffoni’.

Bu 30 o ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 yn cystadlu mewn rhagbrofion Dydd Llun a 6 yn rhagbrofion bore Mawrth. Bu’n gystadleuaeth lwyddiannus eto eleni gyda Fflur Meredith o Ddulas yn dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth llefaru a chanu. Yn ail yn y Llefaru oedd Louie Jones o Dulas ac yn drydydd oedd Arlo Saad o Teifi. Huw Edwards o Teifi ddaeth yn ail yn y canu a Tia o Teifi a Lola o Dulas yn gydradd drydydd. “Nadolig” o waith Dewi Pws oedd darn gosod y llefaru, a “Wm-pa-pa” o’r sioe “Oliver” a chafodd ei berfformio gan yr ysgol ddydd Iau yr wythnos cynt oedd y darn canu.

Meim Teifi.
Meim Teifi.

Gwnaeth y dysgwyr Cynradd lefaru yn dda hefyd gyda Julia o dŷ Creuddyn yn gyntaf, Nicholas yn ail ac Olivia yn drydydd a’r ddau o Teifi. Da iawn bawb!

I agor cystadlu dydd Mercher oedd yr unawd merched iau. Betrys Llwyd Dafydd blwyddyn 7 o Greuddyn fu’n fuddugol, gyda Elen Morgan o Greuddyn yn ail a Ffion Davies o Deifi yn drydydd. “Diwrnod ‘Dolig yw” oedd y darn gosod i’r gystadleuaeth hon.

Cystadleuaeth a chystadlu brwd arall oedd yr unawd i fechgyn iau a’r darn gosod oedd “Un Bugail Bach” darn cyfarwydd iawn i bawb. Gruffydd Llwyd Dafydd o Greuddyn fu’n fuddugol ar y gystadleuaeth yma gyda Rhodri Wiliams o Dulas yn ail a Ifan Meredith a Tomos Lloyd Jones yn gydradd drydydd, y ddau yn tŷ Dulas.

Lisa yn ennill y gadair.
Lisa yn ennill y gadair.

“Gwaith y Nadolig” o waith Mererid Hopwood oedd darn gosod y gystadleuaeth llefaru iau a welodd Ifan Meredith o Ddulas yn ddod yn gyntaf, Betrys Llwyd Dafydd o Greuddyn yn ail a Cerys Angharad o Deifi yn gydradd drydydd gyda Martha Thomas o Ddulas.

Yn y gystadleuaeth unawd i ferched hynaf, Elan Jones capten Teifi oedd yn gyntaf, Hanna Davies is-gapten Creuddyn yn ail a Sioned Davies o Deifi yn drydydd.

Yn yr unawd bechgyn hynaf gwelon ni Steffan Griffiths o Deifi yn cipio’r wobr gyntaf, Geraint Walters o Ddulas yn cipio’r ail a Idris Lloyd o Ddulas yn cipio’r drydedd wobr.

Yn fuddugol yn yr unawd offerynnol hŷn oedd Emma Herbet o Deifi, yn ail oedd Sioned Davies o Deifi ac yn gydradd drydydd oedd Ffion Carruthers o Ddulas ac Elan Jones o Deifi.

Yn yr unawd offerynnol iau daeth Cerys Angharad o Deifi i’r brig wrth ganu’r delyn, Megan Biddulph o Deifi yn ail yn chwarae’r piano a Efan Thomas yn drydydd, hefyd yn chwarae’r piano.

Lauren yn ennill y goron.
Lauren yn ennill y goron.

Yn y gystadleuaeth Areithio, daeth Hedd Dafydd capten Creuddyn i’r brig gyda’i araith ar “Enw”, Hugo Waddington o Deifi daeth yn ail gyda’i araith ar “Gwaith Cartref” a Elan Jones hefyd o Deifi daeth yn drydydd gyda’i araith ar “A ydy dynion yn well yrwyr ‘na menywod?”.

Un o uchafbwyntiau yr Eisteddfod i rai yw cystadleuaeth y meim. Teifi fu’n fuddugol eleni gyda’i meim ar “Gylchdro Bywyd”. Yn ail oedd Creuddyn ac yn drydydd oedd Dulas gyda’i meim ar gwahanol sioeau cerdd.

Cystadleuaeth ddoniol yw’r sgets lle mae’r athrawon yn dechre’ becso. Penderfynodd y beirniad sef Lowri Gregson dylai Dulas fod yn fuddugol gyda’i sgets ar gwahanol athrawon yn gwneud “Syncronised Swimming”, Teifi’n ail gyda’i sgets ar athrawon yn mynd ar daith i wylio gêm rygbi ac yna Creuddyn yn drydydd gyda’i sgets ar yr athrawon yn cael eu cyfnewid.

Cystadleuaeth hwylus yw’r gystadleuaeth dawnsio disgo lle dyfarnwyd Teifi yn gyntaf, Dulas yn ail a Chreuddyn yn drydydd.

Yng ngystadleuaeth y Parti Bechgyn “Un Seren” oedd y darn gosod a phenderfynodd y beirniad cerdd sef Susan Jones dylai Creuddyn dderbyn y wobr gyntaf, Dulas yr ail wobr a’r trydydd i Deifi.

Yng nghystadleuaeth y Parti Merched, Creuddyn oedd yn fuddugol, Teifi’n ail a Dulas yn drydydd.

Uchafbwynt y cystadlu i gyd yw’r côr gyda’r darn “Ymunwch yn y Simffoni” yn ddarn gosod a’r enillwyr oedd, Creuddyn, gyda Dulas yn ail a Theifi yn drydydd.

Enillydd prif seremoni bore ddydd Mercher oedd Lauren Hill o Deifi gyda’i cherdd ar y testun “Roots” ac enillydd brif seremoni’r prynhawn oedd Lisa Evans eto o Deifi gyda’i cherdd ar y testun “Adre,” yn ail oedd Elan Jones hefyd o Deifi ac yn drydydd oedd Lisa Evans eto.

Ar ddiwedd yr Eisteddfod, gwobrwywyd nifer o unigolion gyda thariannau a chwpanau am eu gwaith ar ac oddi ar y llwyfan. Teifi ddaeth i’r brig gyda 680 o farciau, Creuddyn yn ail gyda 574 o bwyntiau a Dulas yn drydydd gyda 430 o bwyntiau. Cafwyd cystadlu o safon uchel iawn yn yr Eisteddfod eleni eto ac roedd y neuadd bron yn llawn ar noson y Pigion. Diolch i bawb am gefnogi.