Ar gyfer y gystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant eleni mae CFfI Pontsian wedi dewis rhoi gwedd newydd ar un o hen straeon T. Llew Jones.
Ysgrifennwyd ‘Guto a’r Tylwyth Teg’ gan Dylan Iorwerth, ac mae wedi’i seilio ar stori wreiddiol Y Lleuad yn Olau gan yr awdur adnabyddus.
Cip olwg ar ddyfodol Cymru?
Eglurodd Endaf Griffiths, a oedd yn chwarae un o’r prif gymeriadau, “Roedd y stori yn ymwneud â bachgen ifanc o ardal Llandysul – o’r enw Guto – sy’n cael ei ddal mewn cylch tylwyth teg. Ar ôl mwynhau a blino’n lân yng nghwmni’r bobol hyn, mae Guto yn dihuno mewn Cymru sy’n hollol wahanol i’r un y mae ef yn ei nabod. Daw’n amlwg wedyn ei fod wedi teithio ymlaen 75 o flynyddoedd i’r dyfodol at Gymru lle mae pob dafad wedi eu difa, ffermwyr yn figans, a Brexit heb ddigwydd eto.”
Cynhyrchwyd y sioe gan Einir Ryder, Dylan Iorwerth, Mererid Jones a Sharon Thomas, gyda Cennydd Jones yn chwarae rhan Guto. Roedd gan Bontsian 33 o aelodau’n cymryd rhan – nid yn unig ar y llwyfan, ond aelodau a greodd y set hefyd.
Dywed Endaf “Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ers cyfnod o bythefnos, ond fe dreuliwyd rhai wythnosau yn cynllunio a sgriptio’r cynhyrchiad. Rydym ni’n ddyledus iawn fel clwb i’r cynhyrchwyr – Dylan Iorwerth, Einir Ryder a Mererid Jones, ynghyd â meistres y gwisgoedd, Sharon Thomas, am eu help a’u hanogaeth. Mae diolch ychwanegol yn mynd i Dylan Iorwerth, y prif sgriptiwr, sy’n gaffaeliad mawr i ni fel clwb.”
Dim trafferthion ym Mhontsian!
“Dechreuodd yr ymarferion yn go araf, ond erbyn y diwedd fe ddaeth pob dim yn ei flaen yn dda. Does byth trafferthion ym Mhontsian!
“Mae gan bob clwb yng Ngheredigion y potensial i ennill y gystadleuaeth, gan fod yna aelodau talentog ym mhob un ohonyn nhw.”
Bydd modd gwylio’r cynhyrchiad yn cael ei ail-berfformio droeon dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys cyngerdd y clwb yn Neuadd Tysul, Llandysul ar 11 Mawrth.