Dethlir Gŵyl y Glaniad yn Llanbed am y tro cyntaf eleni. Cynhelir y digwyddiad yng Nghlwb Rygbi’r dref dydd Sadwrn Gorffennaf y 27ain dan ofal Cymdeithas Cymru-Ariannin.
Caiff Gŵyl y Glaniad ei ddathlu yn flynyddol ar Orffennaf yr 28ain, sef y dyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa nôl ym 1865.
Disgwylir rhyw 64 o aelodau’r gymdeithas yn Llanbed gan gynnwys tair myfyrwraig o’r Wladfa sy’n astudio yng Nghymru eleni a phedwar ymwelydd o Batagonia sy’n teithio Cymru dros yr haf.
Morfudd Slaymaker sy’n gyfrifol am letya’r ymwelwyr o Batagonia yn Llanbed dros y penwythnos. Mae ganddi gyswllt teuluol â’r Wladfa. Bu ar sawl taith yno ac mae wedi croesawu degau o ymwelwyr i’w chartref yn Llanbed dros y blynyddoedd.
Dywedodd Morfudd “Ma’r peth lleia alla i ‘neud achos ni’n cael shwt groeso mas ‘na bob tro.”
Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin yw Ceris Gruffudd o Benrhyn-coch. Ceris sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad yn Llanbed ar ran y Gymdeithas. Dywedodd e “Mae hyn yn beth mawr ym Mhatagonia. Mae’r trigolion yn dal i ddathlu Gŵyl y Glaniad yn flynyddol ac yn dod ynghyd i gael te a chynnal digwyddiadau i nodi’r achlysur.”
Yma yng Nghymru dathliwyd Gŵyl y Glaniad yn y Bala dros y blynyddoedd oherwydd y cysylltiad cryf sydd yno â Phatagonia, ond cynhaliwyd y digwyddiad mewn mannau eraill hefyd fel Aberteifi ac Aberystwyth.
Braf felly yw croesawu’r digwyddiad i Lanbed oherwydd y cysylltiad cryf o gynnal cyrsiau Cymraeg yn y brifysgol lle mynychodd cymaint o bobl Patagonia er mwyn ail gydio yn yr iaith a’i gloywi.
Yn y digwyddiad yn y Clwb Rygbi ddydd Sadwrn cenir anthem yr Ariannin a derbynnir cyfarchion o Batagonia. Bydd Nest Jenkins o Ledrod hefyd yno i ddiddanu. Bu Nest ei hunan ar daith i Batagonia gyda’r Urdd yn 2016.
Dymuniadau gorau i bawb o bell ac agos wrth ddathlu rhan mor allweddol o hanes Cymru ac Ariannin.