gan
Ifan Meredith
Ar nos Sul y 6ed o Hydref, cynhaliwyd Gymanfa Ganu C.Ff.I. Bro’r Dderi gyda’r £680 a godwyd yn cael ei rannu rhwng cronfa Apêl Eisteddfod Ceredigion 2020 Golwg y Dderi a C.Ff.I. Bro’r Dderi.
Llywydd y noson oedd Mrs Eryl Evans, Tangraig, Silian a’r arweinyddion oedd Lowri Elen Jones ac Elliw Dafydd gyda Gethin Morgan yn cyfeilio.
Canwyd detholiad o emynau hyfryd o Cân Hosana i Pantyfedwen ac arweiniwyd yn slic gan y ddwy arweinyddes brwdfrydig a hwyliog.
Cafwyd hefyd eitemau gan ddisgyblion Ysgol y Dderi a C.Ff.I. Bro’r Dderi.