Yng nghanol amodau cythryblus Storm Hannah, cafwyd brwydr agos rhwng y ddau dîm ieuenctid wrth i Lambed ennill o drwch blewyn mewn gêm ddarbi corfforol a ffyrnig yn Aberaeron.
Wrth chwarae i mewn i’r gwynt, rheolodd Llambed yr ugain munud agoriadol cyn i Aberystwyth agor y sgorio wrth i fechgyn Llambed golli’u ffocws yn dilyn cic o’u llinell 22 metr eu hunain. Yna, trosglwyddwyd y momentwm yn llwyr i ochr Aberystwyth, wrth i’r blaenwyr pwerus sicrhau mwyafrif y meddiant am weddill yr hanner gyda bechgyn Llambed yn amddiffyn yn arwrol ar eu llinell gais i stopio’r gŵyr o Ogledd y Sir i ychwanegu unrhyw bwyntiau yn ystod yr hanner cyntaf.
Dechreuodd Llambed yr ail hanner yn wych wrth iddynt dreulio llawer o amser yn agos i linell gais Aber. Yn y diwedd, roedd y pwysau’n ormod i Aber, pan wnaeth y prop pen-tynn Guto Jones chwalu dros y llinell gais i sgorio yn y gornel a dod â’r sgorfwrdd yn gyfartal.
Am fwyafrif yr ugain munud nesaf, roedd hi’n ornest agos iawn wrth i amddiffyn y ddau dîm ddod i’r brig i atal ei gilydd, cyn i Aberystwyth ildio cic gosb. Ciciodd Osian Jones y bêl yn syth i’r gornel, wrth i Lambed wthio’u ffordd dros y llinell gais yn dilyn sgarmes symudol, gyda’r prop Guto Jones yn sgorio’i ail. Yna, fe drosodd Osian Jones y cais er mwyn ychwanegu’r pwyntiau a fyddai’n sicrhau’r fuddugoliaeth i Lambed.
Ychydig funudau cyn y chwiban olaf, ddaeth Aber yn ôl i sgorio cais haeddiannol ger yr ystlys er mwyn cau’r bwlch i ddau bwynt, ond ar ôl methu’r trosiad, fe ddaliodd bechgyn Llambed ymlaen am yr ychydig funudau olaf er mwyn ennill Cwpan Ceredigion.
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i gefnogi er gwaethaf y tywydd!