Daeth llu o bobol ynghyd unwaith eto i gystadlu a chefnogi Sioe Llanfair Clydogau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Buom yn ffodus eleni eto i gael diwrnod braf a hyfryd oedd gweld pobol hen ac ifanc yn cymdeithasu yn yr haul.
Yn y neuadd roedd bwrlwm o baratoadau cyn i’r beirniadu ddechrau. Diolch i’r holl stiwardiaid am eu hymdrechion trylwyr. Tra roedd hyn yn digwydd roedd bwyd blasus wedi ei baratoi i’r beirniaid a’r stiwardiaid gan Joyce Dickson, Paula Barker ac Eleri Davies.
Pleser oedd gweld cynifer wedi cystadlu yn y gwahanol ddosbarthiadau ond siomedig eleni oedd y cystadlu yn yr adran celf uwchradd ac oedolion.
Enillydd y cwpan i’r plentyn â’r pwyntiau uchaf oedd Elliw Williams. Enillydd y cwpan her parahaol am y marciau uchaf yn yr adran gelf i oedolion oedd Sara Bee. Enillydd cwpan her parhaol am y ci gorau yn y sioe oedd Nat, ci defaid Mark Wakelin. Mae Mark yn ffermio tir Llanfair Fawr. Enillydd tarian Oswyn Lewis am goginio oedd Meinir Miller ac enillydd cwpan her parhaol er cof am Mrs Margaret Jones, Glanhelen am y dyn â’r pwyntiau uchaf am goginio oedd Martin Quan. Enillydd y cwpan am y pwyntiau uchaf yn y sioe oedd Helen Jones, Llwynieir.
Llywydd y dydd oedd y Cynghorwr Odwyn Davies, fferm Olmarch Isaf, Llangybi. Mae cysylltiadau agos gyda Odwyn â phentref Llanfair gan iddo gael ei eni yng Nghefenfoelallt, gyda’i fam-gu a’i dad-cu yn byw yn Hendrebant. Diolch o galon iddo am ei rodd hael iawn tuag at y sioe.
I gloi diwrnod arbennig o bleserus cafwyd barbeciw â’r bwyd wedi ei baratoi a’i goginio gan ferched a dynion y pentref. Diolch i bawb a gyfrannodd y bwyd. Yn y neuadd roedd cyfle i wrando a mwynhau miwsig a chaneuon y Golden Gekos.
Trefnwyd y sioe gan y pwyllgor dan arweiniad y prif swyddogion sef Dai Jones, Llanfair Fach, y cadeirydd, Sally Leech, Tanyresgair, yr ysgrifennydd a Glennis Gratwick, y trysorydd. Diolch i lu o bobol eraill am eu cyfraniad gweithgar tuag at lwyddiant ysgubol y sioe.