Cyfle i fod yn Llysgenhadon Ifanc Pentref Cwmann

gan Sian Roberts-Jones
Hwyl y Mabolgampau.
Hwyl y Mabolgampau.

Ydych chi’n berson ifanc sy’n byw ym mhentref Cwmann a’r cylch?
Oes gennych chi syniadau am y math o weithgareddau y byddai pobl ifanc yn hoffi eu gweld yn y pentref?

Fyddech chi’n barod i weithio gyda’ch cyfoedion a Phwyllgor y Pentref i ddatblygu rhai o’r syniadau hyn?  Os felly, hoffai Pwyllgor y Pentref glywed gennych.

Eleni, yn dilyn penderfyniad i newid rywfaint ar drefn y Carnifal blynyddol, rydym wedi penderfynu penodi dau lysgennad ifanc i bentref Cwmann.

Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc
Rhai o aelodau’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddau berson ifanc gynnig syniadau ar gyfer y math o weithgareddau y byddai pobl ifanc yn hoffi eu gweld yn y pentref a helpu Pwyllgor y Pentref i ddatblygu’r syniadau hyn.

Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn bod yn llysgennad y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw anfon neges destun at Sian Jones ar 07773732707 i fynegi diddordeb. Rydym yn chwilio yn benodol am bobl ifanc sydd ym Mlwyddyn 10 hyd at 26 oed. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 18 Ebrill 2019.

Un o atyniadau Diwrnod y Carnifal.
Un o atyniadau Diwrnod y Carnifal.

Bydd dau lysgennad yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl enwau sy’n dod i law ac yn cael eu cyflwyno’n swyddogol yn y Carnifal sydd i’w gynnal ar y 25ain o Fai.

Felly, beth amdani? Y cyfan sydd ei angen arnoch yw egni, brwdfrydedd a syniadau da.