Fe fydd Marchnad y Ffermwyr yn ailddechrau yn Llanbed adeg y Pasg y flwyddyn nesa’ – os bydd cynlluniau newydd yn dwyn ffrwyth.
Ac os daw hi’n ôl, fe fydd Cyngor y Dref yn gofyn i Gyngor Ceredigion atal ffioedd parcio yn y dre’ ar y bore hwnnw.
Y gobaith yw cael o leia’ 12 stondin ar naill ai Stryd y Farchnad neu’r Stryd Fawr, gyda chymysgedd o gynhyrchwyr bwyd profiadol a rhai newydd ac un stondin am ddim ar gyfer achosion da.
Incwm ‘hyd at £19,000’
Fe daeth y manylion i’r amlwg mewn cyflwyniad i Gyngor y Dref gan ddwy o’r trefnwyr, y Cynghorydd Dinah Mullholland a Lucy Watson o gwmni bwyd organig Watson and Pratts sydd ar y Parc Busnes.
Dyma rai o’r manylion pellach:
Bydd yn digwydd bob wythnos gynta’ a thrydedd wythnos bob mis, am yn ail â Marchnad y Bobol.
- Bydd y gost rhwng £15,000 ac £20,000 yn y flwyddyn gynta;,
- Mae disgwyl incwm o rhwng £8200 ac £19,000 trwy incwm gan stondinwyr a nawdd.
- Fydd dim stondinau crefft.
- Oherwydd bod nifer o gaffis a siopau gwerthu bwyd cario mas yn y dre’, fydd dim stondinau bwyd twym.
‘Angen denu mwy o bobl’
Mae Cyngor y Dref wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i’r cynllun.
“Byddai’r farchnad yn tynnu pobl i mewn i’r dref,” meddai’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan wrth Clonc360.
“I gymharu â llefydd eraill, a llawer o ganol trefi, mae Llanbed yn gwneud yn dda, ond mae angen denu mwy o bobl, yn bendant.
“Dim ond cynllun yw hi ar hyn o bryd, ond byddai hi’n sicr yn denu pobol yma. Edrychwch ar y banciau: mae Llanbed yn ffodus fod yna 3 o hyd. Byddai’r Farchnad yn cael yr un effaith.”