Mae yna lyfryn ar werth yn yr Amgueddfa Llambed, sy’n adrodd hanes ymweliad Mrs Margaret Lloyd George â’r dref ar yr 17eg o fis Fehefin, 1919, sef union gan mlynedd yn ôl. Ond mae’r ‘digwyddiad’ a ddilynodd yn dangos y tensiynau oedd yn codi yn rhengoedd y blaid Ryddfrydol yng Nghymru ar y pryd.
Roedd y Parchedig J.T Rhys, un a fagwyd yn nhref Llambed, yn Ysgrifennydd Personol i Mrs Lloyd George rhwng 1917–22, tra’r oedd hi a David Lloyd George yn rhif 10 Stryd Downing, ac mae’r hanes yma wedi ei gasglu gan ei ŵyr, sef Richard O’Brien sy’n byw yn Llundain. Dyma’r papur cyntaf o gyfres achlysurol y bwriedir eu cyhoeddi, a fydd yn canlbwyntio ar areithiau a draddodwyd gan Mrs Lloyd George, a chânt eu rhoddi yn archifau Lloyd George yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Yn ogystal â chyfeirio at ddigwyddiadau 1919, mae’r papur yn taflu golau newydd ar y tensiynau yn ystod yr 1860au, pan cosbwyd ffermwyr am wrthod pleidleisio i’w meistri tir Torïaidd. Cafwyd adroddiadau yn y wasg o ochr y Rhyddfrydwyr yn rhestru’r rhai a gafodd eu troi allan, tra fu’r wasg o ochr y Torïaid yn gwadu hynny. Roedd yna achos yn nheulu’r Rees /Rhys, ac mae’r dystiolaeth hynny yn cefnogi safbwynt y Rhyddfrydwyr.
Mae’r astudiaeth yma yn ddilyniant i’r llyfryn a gyhoeddwyd y llynedd – ‘Hanes teulu o Lambed 1870–1971’, sy’n cwmpasu bywyd teulu’r Rees /Rhys o Lambed, a sy’n cyd-redeg â’r casgliad sy’n cael ei arddangos am yr ail flwyddyn yn yr Amguedfa.
Gan dynnu oddiwrth copiau o areithiau Mrs Lloyd George, o adroddiadau a ymddangosodd yn y papurau lleol ar y pryd, ac o lythyron ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’r hanes am Mrs Lloyd George yn teithio o Aberystwyth i Lambed drwy Aberaeron yn tanio sylwadau gan rai o’r cyhoedd nad oedd Llambed wedi rhoddi iddi’r derbyniad a fyddai’n deilwng i wraig y Prif Weinidog.
Wrth edrych yn ôl, mae Richard yn gweld nad oedd y peth ddim ond rhyw hylibalw am ddim byd, ond eto i gyd yn dangos y tensiynau oedd yn codi rhwng cefnogwyr Lloyd George a chefnogwyr y ‘Wee Frees’, sef y rheini o blaid Asquith. Achosodd rwyg rhwng ei Ddad-cu a’i frodyr, Harry Rees o Lambed, sef Ysgrifennydd Y Gymdeithas Ryddfrydol yn Sir Aberteifi, a George Rees, Sylfaenydd a Golygydd y Welsh Gazette.
Mae’r ddau lyfryn ar werth yn Amgueddfa Llambed am £2 yr un, ac mae’r Amgueddfa yn ddiolchgar i Richard O’Brien ei fod yn cyflwyno’r holl arian i gefnogi’r Amgueddfa yn nhref ei hynafiaid.
Mae’r Amgueddfa ar agor Dydd Mawrth a Dydd Iau 10-4, a Gwener a Sadwrn 11–2.