Cafwyd chwip o Barêd yn Llanbed heddiw (4 Mawrth) gan gychwyn o Ysgol Bro Pedr am 12.45. Arweiniwyd y Pared gan y Maer Ann Bowen Morgan a’i chydymaith Densil Morgan. Hefyd y gŵr gwadd Mr Emyr Lewis, y chwarewr rygbi enwog a Mr Rob Phillips y dirprwy faer.
Roedd aelodau’r chweched yn cario’r baneri cenedlaethol. Yn dilyn Cyngor y dref roedd tua 400 o blant ac athrawon o ysgolion y dalgylch-Bro Pedr, Dyffryn Cledlyn, Carreg Hirfaen, Y Dderi, Llanybydder a Llanllwni. Cafwyd cynrychiolaeth gan Gymdeithasau di ri a Chôr Cwmann.
Wedi teithio’r strydoedd i gyfeiliant cerddoriaeth fywiog drwy uchelseinydd Gwyn Llanddewi, aethpwyd i Neuadd Buddug am wledd o ganu gan y disgyblion a Chôr Cwmann. Cafwyd cyfarchiad gan Emyr Lewis a’r plant wrth eu bodd yn ymateb.
Diolch i bawb am gyfrannu pice bach ac i Delyth Pantri am ddanteithion ar y ffordd ac am stiwardio. Llongyfarchiadau i Sarah Ward o’r Stiwdio Brint ar ennill cystadleuaeth Ffenestr Gŵyl Dewi.